English icon English
ffeithiau lliwiau eisteddfod pen mochyn gwisg

Cerrig Glas yn Canu Roc a Rôl - Oes, wir! "Mae Eisteddfod ar y Gweill"

The Bluestones are rocking - “Mae Eisteddfod ar y Gweill” - “The Eisteddfod is on its way!”

Mae fersiwn newydd, fywiog o'r clasur Hela'r Twrch yn cael ei rhyddhau ar Dachwedd yr 21ain wrth i ni fwrw gorwelion at Eisteddfod y Garreg Las 2026.

Cafodd y gân, a gyfansoddwyd gan y diweddar Richard Jones ac â geiriau gan Gareth Ioan, ei recordio gan tua 220 o ddisgyblion Blwyddyn 5 o ysgolion lleol yn ystod Gŵyl Hirddydd Haf ym Mis Mehefin. Cynhelir yr ŵyl flynyddol yng Nghanolfan yr Urdd Pentre Ifan gan Adran Addysg Sir Benfro a Menter Iaith Sir Benfro, ac roedd eleni’n gyfle perffaith i ddechrau croesawu’r Eisteddfod i’r ardal.

Yn wreiddiol wedi ei chyfansoddi ar gyfer sioe ieuenctid Eisteddfod yr Urdd Bro’r Preseli yn 1995, mae Hela’r Twrch yn olrhain hanes chwedl Culhwch ac Olwen tra’n dathlu hunaniaeth ardal y Preselau. Y llais gwrieddiol ar y recordiad hwnnw oedd neb llai na Lowri Evans, ac mae hi’n ôl gyda dau o leisiau mwyaf adnabyddus yr ardal, Einir Dafydd a Cleif Harpwood i groesawu Eisteddfod arall i’r ardal. Yn ymuno gyda’r tri mae’r cerddor Mei Gwynedd a oedd yn gyfrifol am drefnu, recordio a chynhyrchu’r fersiwn newydd. Y canlyniad? Trac llawn egni a balchder bro!

Bydd y gân yn cael ei rhyddhau, 21 Tachwedd, ac ar gael ar bob platfform ffrydio, gyda fideo lliwgar yn cael ei ryddhau ar YouTube yr un diwrnod.

Dywedodd Catrin Phillips, Swyddog Datblygu’r Gymraeg ar gyfer Cyngor Sir Penfro:

“Mae cymaint o falchder yn ein hardal ni - mae’r gwaith hwn yn dal egni a thalent ein pobl ifanc, ac mae’n ffordd wych o ddathlu’r iaith a’r diwylliant Cymraeg wrth i ni edrych ymlaen at groesawu’r Eisteddfod.”

Ychwanegodd y Cynghorydd John Davies, Cadeirydd Pwyllgor Gwaith Eisteddfod y Garreg Las:

Mae’r cyffro eisoes yn cynyddu! Mae cymunedau Sir Benfro, de Ceredigion a gorllewin Sir Gâr yn llawn egni a chreadigrwydd wrth iddynt godi arian a pharatoi ar gyfer 2026. Maer gân hon yn dal yr ysbryd hwnnwn berffaith.

Bydd digon o gyfleoedd dros y misoedd nesaf i ysgolion, sefydliadau a chymunedau lleol gymryd rhan yn y paratoadau ar gyfer yr Eisteddfod.

Gwyliwch y fideo yma: https://youtu.be/NmsCLWPWSK8

Gwrandewch nawr: https://promo.theorchard.com/3lDnOFpauPi0fNd6NjBl

Nodiadau i olygyddion

Artist: Côr Hirddydd Haf, Mei Gwynedd, Lowri Evans, Einir Dafydd, Cleif Harpwood

 

Trac: Hela’r Twrch

 

Clodrestr:

Cerddoriaeth: Richard Jones

Geiriau: Gareth Ioan


Trefniant newydd a Chynhyrchiad Cerddorol: Mei Gwynedd


Perfformwyr: Lowri Evans, Einir Dafydd, Cleif Harpwood, Mei Gwynedd, a disgyblion

Blwyddyn 5 o’r ysgolion canlynol:

Ysgol Bro Preseli
Ysgol Arberth
Ysgol Maenclochog
Ysgol Brynconin
Ysgol Ger y Llan
Ysgol Llandudoch
Ysgol Bro Ingli
Ysgol Casmael
Ysgol Llanychllwydog
Ysgol Clydau
Ysgol Gynradd Eglwyswrw
Ysgol Wdig
Ysgol Casblaidd
Ysgol Croesgoch
Ysgol Caer Elen

Fideo: Gareth Bull