English icon English
Cattle - Buwch

Newidiadau i Bolisi Rheoli Feirws y Tafod Glas yng Nghymru

Changes to Bluetongue Control Policy in Wales

Mae’r eithriadau i’r gofyn i gynnal profion cyn symud wedi’u hestyn o 12 Mehefin tan 19 Mehefin.

Diben hyn yw rhoi digon o amser i geidwaid da byw baratoi ar gyfer y newidiadau sydd ar ddod i Bolisi Rheoli Feirws y Tafod Glas yng Nghymru.

O 20 Mehefin 2025 ymlaen, bydd angen trwydded symud benodol ar unrhyw anifeiliaid sy’n gallu dal y clefyd (anifeiliaid cnoi cil gan gynnwys gwartheg, defaid, geifr, ceirw, lamas ac alpacas) sy’n symud o barth dan gyfyngiadau oherwydd y Tafod Glas i Gymru (ar gov.uk) a phrawf cyn symud y telir amdano gan y ceidwad. Os yw anifail yn dangos arwyddion clinigol ar ddiwrnod y cludo, ni chaiff symud i Gymru.

Bydd y mesurau canlynol a gyflwynwyd yn ystod y cyfnod fector isel yn parhau ar waith tan 1 Gorffennaf 2025:

  • nid oes angen mesurau rheoli fectorau fel defnyddio pryfladdwyr mewn marchnadoedd cymeradwy neu mewn cerbydau a lladd-dai tan 1 Gorffennaf.
  • mae’r gofyniad i ddynodi lladd-dai i dderbyn anifeiliaid o’r parth dan gyfyngiadau yn dal wedi ei atal tan 1 Gorffennaf.

O 1 Gorffennaf 2025 bydd y parth dan gyfyngiadau oherwydd y Tafod Glas yn ehangu i gwmpasu Lloegr gyfan.

Arwyddion Feirws y Tafod Glas

 

Amheuaeth a chadarnhad

Os oes gennych unrhyw amheuon fod y tafod glas ar eich anifeiliaid, cysylltwch â’ch swyddfa Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) leol ar 0300 303 8268 ar unwaith.

Bydd milfeddygon yr asiantaeth yn archwilio’r achosion hyn.

 

Arwyddion clinigol

Gallai’r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol mewn defaid:

  • wlserau neu friwiau yn y geg a’r trwyn
  • llif o’r llygaid neu’r trwyn a glafoeri o’r geg
  • y gwefusau, y tafod, y pen, y gwddf a’r croen yng nghefn y carn wedi chwyddo

Mae arwyddion clinigol eraill yn cynnwys:

  • croen coch o ganlyniad i waed yn casglu o dan yr wyneb
  • twymyn
  • cloffni
  • problemau anadlu
  • erthylu
  • marwolaeth

 

Gallai’r arwyddion clinigol canlynol fod yn bresennol mewn gwartheg:

  • syrthni
  • briwiau a chroen caled o gwmpas y ffroenau a’r geg
  • cochni ar y geg, y llygaid a’r trwyn
  • cochni ar y croen uwchben y carn
  • llif o’r trwyn
  • cochni a briwiau ar y tethi
  • blinder
  • twymyn
  • cynhyrchu llai o laeth
  • colli awydd am fwyd
  • erthylu

Gall gwartheg llawndwf fod yn ffynhonnell feirws am sawl wythnos gan arddangos ychydig o arwyddion clinigol o’r clefyd neu ddim arwyddion clinigol o’r clefyd. Mae fectorau pryfed yn aml yn eu ffafrio hwy o ran lletya.

 

Y tafod glas mewn lloi

Gall buwch gyflo sydd wedi’i heintio drosglwyddo’r tafod glas i’w ffetws. Gall hyn arwain at erthyliad, lloi’n cael eu geni’n llai, yn wan, wedi’u hanffurfio neu’n ddall, a lloi yn marw o fewn ychydig ddyddiau i’w geni.

Dylai ceidwaid a milfeddygon da byw ystyried y tafod glas fel achos posibl ar gyfer lloi sy’n dangos yr arwyddion hyn.

 

Trosglwyddo

Gall feirws y tafod glas gael ei ledaenu gan rai rhywogaethau o wybed sy’n brathu (rhywogaethau o’r genws Culicoides). Gellir dod o hyd i lawer ohonynt ledled Prydain Fawr.

Mae gwybed yn cael eu heintio â’r feirws pan fyddant yn brathu anifail heintiedig. Mae’r feirws yn lledaenu pan fydd y gwybedyn heintiedig wedyn yn brathu anifail sydd heb ei heintio a allai gael ei heintio. Unwaith y bydd gwybedyn wedi codi’r feirws tafod glas bydd yn gludwr am weddill ei oes.

Mae gwybed ar eu prysuraf rhwng mis Ebrill a mis Tachwedd. Mae’r tywydd (tymheredd, cyflymder a chyfeiriad y gwynt, a glaw) yn effeithio ar ba mor gyflym a pha mor bell y gall gwybed ledaenu’r clefyd.

Gall feirws y tafod glas hefyd gael ei ledaenu trwy symud anifeiliaid heintiedig, a thrwy gynhyrchion biolegol fel:

  • gwaed
  • cynhyrchion cenhedlol (semen, ofa neu embryonau)
  • gan gynnwys trwy fewnforion o wledydd lle gallai’r tafod glas fod yn mynd ar led heb ei ganfod.

 

Atal a rheoli

Gallwch helpu i atal firws y tafod glas rhag lledaenu drwy:

  • sicrhau bod da byw yn dod o ffynonellau cyfrifol
  • parhau i fod yn wyliadwrus o arwyddion o glefydau
  • cynnal hylendid a bioddiogelwch da ar eich safle
  • cadw anifeiliaid mewn adeiladau sy’n cadw gwybed sy’n pigo allan – mae hyn yn arbennig o bwysig ar doriad gwawr a machlud

 

Brechu eich anifeiliaid

Mae tri brechlyn BTV-3 wedi’u cymeradwyo i’w defnyddio. Mae dau o’r rhain wedi cael awdurdodiad marchnata gan y Gyfarwyddiaeth Meddyginiaethau Milfeddygol (VMD), ac mae’r trydydd yn anawdurdodedig. Ni allwch ond ddefnyddio’r brechlynnau hyn os yw’ch defnydd yn cydymffurfio â thrwydded neu ddatganiad dilys.

I gael rhagor o wybodaeth am y brechlynnau BTV-3, gan gynnwys trwyddedau a hawlenni, ewch i

Bluetongue serotype 3 (BTV-3) vaccination (ar gov.uk)

 

Gwnewch yn siŵr y gellir olrhain eich anifeiliaid

Os ydych yn cadw anifeiliaid fel da byw neu anifeiliaid anwes, rhaid i chi ddilyn rheolau i sicrhau y gellir eu holrhain. Mae hyn yn cynnwys cofrestru eich tir a’ch anifeiliaid.

  • Darllenwch y rheolau ar gyfer cadw gwartheg, defaid, geifr a cheirw.
  • Cysylltwch â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) os ydych yn cadw camelidau (fel lamas neu alpacas) neu os nad ydych yn siŵr o’r rheolau.
  • Gwiriwch a oes angen i chi wneud cais am drwydded symud penodol (ar gov.uk) i symud anifeiliaid i safle neu oddi ar safle sydd wedi’i gyfyngu gan y tafod glas.

Dylai ceidwaid sy’n ystyried mewnforio anifeiliaid neu gynhyrchion biolegol o wledydd y mae’r tafod glas yn effeithio arnynt ymgynghori â’u milfeddyg ar y risgiau sy’n gysylltiedig â’r gweithgareddau hyn. Dylid gwneud hyn cyn penderfynu mewnforio. Gall anifeiliaid a fewnforir sy’n profi’n bositif am y tafod glas gael eu difa neu eu dychwelyd i wlad tarddiad.

Os oes angen cyngor neu ragor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Thîm Lles Anifeiliaid Cyngor Sir Penfro drwy awelfare@pembrokeshire.gov.uk