English icon English
Joseph Coelho, Bardd Plant Waterstones, yn Llyfrgell Aberdaugleddau gyda phlant o Ysgol Sant Ffransis.

Bardd Plant Laureate yn ymweld â Sir Benfro ar daith llyfrgelloedd y DU

Children’s Laureate visits Pembrokeshire on UK libraries tour

Cafodd pobl ifanc o Ysgol Sant Ffransis yn Aberdaugleddau eu swyno gan Joseph Coelho, Bardd Plant Waterstones, fore dydd Llun.

Mae Joseph wedi bod ar daith frysiog o lyfrgelloedd ym mhob sir yn y DU – cyfanswm o 200 o lyfrgelloedd - a stopiodd yn Llyfrgell Aberdaugleddau i ddarllen i ddisgyblion  Ysgol Sant Ffransis, oedd wrth eu bodd.

Mae Joseff yn hyrwyddo llyfrgelloedd lleol a'r rôl hanfodol y maent yn ei chwarae yn y gymuned ac yn ysbrydoli cariad at ddarllen ymhlith pobl ifanc.

Gwrandawodd y bobl ifanc yn astud wrth i Joseff ddarllen a siarad â nhw am ei gariad at lyfrgelloedd a llyfrau.

Bardd Plant Laureate yn ymweld â Sir Benfro ar daith llyfrgelloedd y DU  2

Dywedodd: "Fe wnaeth llyfrgelloedd fy ngwneud yn awdur ac maent yn gwneud i gymunedau ffynnu. Maen nhw wedi bod yn rhan hanfodol o fy mywyd i.

"Rwy'n hynod ddiolchgar i lyfrgelloedd a'r gwasanaethau maen nhw'n eu darparu, felly rwy’ eisiau defnyddio fy mhlatfform i hyrwyddo'r mannau cychwyn dysgu hanfodol hyn. Rwy’ eisiau cofleidio pob llyfrgell, y sefydliadau rhyfeddol hyn lle mae gorwelion newydd ar hyd y silffoedd, lle mae meddyliau'n mynd i dyfu."

Dywedodd Tracy Collins, Cydlynydd Safle Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth Aberdaugleddau: "Roedd yn wych croesawu Joseph i Lyfrgell Aberdaugleddau fel rhan o'i daith draws-gwlad i ymuno â llyfrgell ym mhob awdurdod lleol yn y DU.

"Diolch i blant Dosbarth Sgomer yn Ysgol Sant Ffransis a ymunodd â ni. Rydym yn gobeithio y cawsoch chi’ch ysbrydoli i ysgrifennu eich straeon a'ch cerddi eich hun."

Bydd y 'Marathon Llyfrgelloedd' yn dod i ben gyda digwyddiad cyhoeddus arbennig yn y Llyfrgell Brydeinig ar 7 Hydref i nodi Wythnos Genedlaethol y Llyfrgelloedd 2023.