house keys - allweddi tŷ

Diweddariad ar Gofrestr Tai Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro: Rhaid i ymgeiswyr ailymgeisio erbyn 13 Medi 2026

Choice Homes @ Pembrokeshire Housing Register Update: Applicants must reapply by 13 September 2026

Rhannu:

Dyma atgoffa ymgeiswyr ar Gofrestr Tai Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro bod yn rhaid iddynt ymgysylltu â'r broses ailymgeisio erbyn 13 Medi 2026 i aros ar y gofrestr.

Ar hyn o bryd mae'r gofrestr yn cynnwys tua 4,600 o ymgeiswyr ac mae wedi cael ei hadolygu’n eang i wella'r ffordd y mae’r angen am dai yn cael ei asesu.

Nod y newidiadau yw creu proses ddyrannu decach a mwy tryloyw gan sicrhau bod tai yn cael eu blaenoriaethu i'r rhai sydd â'r angen mwyaf.

Un newid allweddol yw cyflwyno gofyniad cysylltiad lleol cryfach. Rhaid i ymgeiswyr ddangos bod angen cartref arnynt a’u bod naill ai:

  • Wedi byw yn Sir Benfro yn barhaus am y pum mlynedd diwethaf;
  • Wedi byw yn Sir Benfro am bum mlynedd yn barhaus yn ystod y pymtheg mlynedd diwethaf; neu eu bod yn
  • Bodloni un o'r eithriadau cymwys a amlinellir yn y polisi.

Y broses

Ym mis Gorffennaf, gwahoddwyd pob ymgeisydd presennol i ailymgeisio ar gyfer y gofrestr dai.

Mae'r cam cyntaf yn ei gwneud yn ofynnol i bob ymgeisydd rhoi tystiolaeth o'u cysylltiad lleol â Sir Benfro. Yna gwahoddir ymgeiswyr sy'n bodloni meini prawf y cysylltiad lleol i lenwi'r ffurflen gais lawn am gartref.

Mae'r ymateb i'r newidiadau wedi bod yn gadarnhaol, a 47% o ymgeiswyr yn cwblhau'r cam cyn-ymgeisio cychwynnol a 22% yn cwblhau'r broses ymgeisio lawn.

Fodd bynnag, mae angen i lawer o ymgeiswyr gwblhau'r camau gofynnol i gadw eu lle ar y gofrestr.

Dyddiadau pwysig

Mae gan ymgeiswyr tan 13 Medi 2026 i gwblhau'r broses ymgeisio.

Rhwng 15 Medi a 28 Hydref 2026, bydd y gofrestr bresennol yn cau wrth i’r ceisiadau gael eu hasesu. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fydd ymgeiswyr presennol yn gallu cynnig ar eiddo, ac ni fydd unrhyw eiddo yn cael ei hysbysebu trwy Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro.

Bydd Cofrestr Tai newydd Cartrefi Dewisedig @ Sir Benfro yn mynd yn fyw ar 28 Hydref 2026, gan ganiatáu i ymgeiswyr cymwys wneud cais am gartrefi addas sydd ar gael.

Cefnogi ymgeiswyr drwy'r broses

Mae'r Tîm Tai yn cydnabod y gall llawer o unigolion a theuluoedd sy'n ceisio am gymorth tai fod yn gwneud hynny yn ystod cyfnodau heriol yn eu bywydau. Er bod angen tystiolaeth i sicrhau bod y polisi yn cael ei ddefnyddio’n deg ac yn gyson, mae swyddogion yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu cymorth sy'n canolbwyntio ar y person trwy gydol y broses gan ystyried amgylchiadau unigol.

Mae'r cymorth hwn yn arbennig o bwysig i ymgeiswyr a allai wynebu anawsterau i gael gafael ar ddogfennau i ddangos cysylltiad lleol.

Pan fo heriau'n codi, bydd y Tîm Tai yn gweithio gydag ymgeiswyr i nodi mathau eraill o dystiolaeth lle bo hynny'n briodol, a allai gynnwys cofnodion swyddogol y Cyngor a chofnodion swyddogol eraill.

Mae cymorth ar gael hefyd i ymgeiswyr sy'n wynebu allgau digidol, sydd angen cymorth i lenwi ffurflenni, neu sydd angen help i gasglu dogfennau. Mae'r gefnogaeth hon wedi cynnwys sesiynau galw heibio ledled y sir, cyfathrebu’n rheolaidd a chymorth pwrpasol gan dimau cymorth tai.

Cyfnod y Cysylltiad Lleol

O dan y polisi newydd, rhaid i ymgeiswyr ddangos cysylltiad cymwys â Sir Benfro am o leiaf bum mlynedd cyn dyddiad gweithredu'r polisi. 

Bydd angen i ymgeiswyr sy'n gymwys o dan gategori eithriad ddarparu tystiolaeth i gefnogi’u cymhwystra.

Adborth gan ymgeiswyr

Mae'r Tîm Tai yn cydnabod y gall newidiadau i'r gofrestr tai effeithio ar y rhai sy'n chwilio am lety ar hyn o bryd.

Mae'r adborth a gafwyd hyd yma, wedi bod yn gadarnhaol i raddau helaeth, a llawer o ymgeiswyr yn cydnabod y bydd y polisi diwygiedig yn helpu i greu system dyrannu tai decach ar gyfer Sir Benfro.

Dywedodd un ymgeisydd:

"Rwy'n hoffi pa mor syml yr oedd i lenwi'r ffurflen ar y wefan. Mae'n glir ac yn hawdd ei deall."

Er y gall profiadau fod yn wahanol, mae'r Tîm Tai wedi gweithio'n galed i sicrhau bod y broses mor syml a hygyrch â phosibl.

Newidiadau i Fandiau Tai

Mae'r gofrestr tai ddiwygiedig yn cyflwyno strwythur bandio newydd sydd wedi'i gynllunio i flaenoriaethu ymgeiswyr yn ôl eu hangen asesedig am dai, gan gadw eu dyddiad ymgeisio gwreiddiol.

O dan y system newydd, bydd ymgeiswyr yn cael eu rhoi mewn Bandiau. Mae'r meini prawf cymhwyso yn wahanol i'r polisi blaenorol, sy'n golygu y gall rhai ymgeiswyr weld newid yn eu bandio.

Rydym wedi ymrwymo i roi dewisiadau tai eraill i'r rhai nad ydynt yn gymwys o dan y polisi dyrannu tai diwygiedig. Elfen allweddol o'r cymorth hwn fydd datblygu Cofrestr Tai Fforddiadwy, gan helpu ymgeiswyr â blaenoriaeth is o ran anghenion tai i archwilio dewisiadau eraill am dai yn Sir Benfro.

Dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau ac adolygiadau

Mae amserlenni clir wedi'u cyflwyno i sicrhau y gall y polisi newydd gael ei weithredu'n llwyddiannus a bod ceisiadau'n cael eu hasesu'n gyson.

Bydd y Gwasanaeth Tai yn gwneud pob ymdrech i gefnogi ymgeiswyr drwy gydol y broses. Fodd bynnag, efallai na fydd ymgeiswyr sy'n methu â darparu'r wybodaeth ofynnol o fewn amserlenni y cytunwyd arnynt, neu nad ydynt yn ymgysylltu â'r Gwasanaethau Tai, yn bodloni meini prawf y polisi a gallent gael eu dileu o’r gofrestr.  Mae hyn er mwyn sicrhau y gallwn weithredu'r polisi erbyn 28 Hydref 2026.

Mae gan ymgeiswyr sy'n anghytuno â phenderfyniad a wnaed fel rhan o'r broses asesu, yr hawl i ofyn am adolygiad o fewn 21 diwrnod o ddyddiad y penderfyniad.

Cymorth ychwanegol

Gofynnir i ymgeiswyr sydd eisoes wedi cwblhau'r broses ac sy'n aros am ganlyniad beidio â chysylltu â'r Tîm Tai am yr wybodaeth ddiweddaraf. Bydd canlyniadau asesu yn cael eu cyhoeddi o ddiwedd mis Medi hyd at 28 Hydref 2026.

Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy fynd i www.choicehomespembrokeshire.org

Gall ymgeiswyr sy'n wynebu anawsterau wrth gwblhau'r broses neu wrth gasglu tystiolaeth cysylltiad lleol fanteisio ar gymorth trwy anfon e-bost i choicehomeschange@pembrokeshire.gov.uk neu drwy ffonio 01437 776603.