English icon English
Christmas waste and recycling - Gwastraff ac ailgylchu'r Nadolig-2

Gwastraff ac ailgylchu'r Nadolig a'r Flwyddyn Newydd

Christmas and New Year waste and recycling

Bydd rhai newidiadau i gasgliadau gwastraff ac ailgylchu dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd yn Sir Benfro.

Ni fydd unrhyw gasgliadau gwastraff ac ailgylchu ar Ddydd Nadolig (Dydd Llun 25 Rhagfyr), Gŵyl San Steffan (Dydd Mawrth 26 Rhagfyr) na Dydd Calan (1 Ionawr).

  • Bydd casgliadau sydd i fod i gael eu cynnal ddydd Llun 25 Rhagfyr yn digwydd deuddydd yn gynharach, ddydd Sadwrn 23 Rhagfyr
  • Bydd casgliadau sydd i fod i gael eu cynnal ddydd Mawrth 26 Rhagfyr yn digwydd deuddydd yn gynharach, ddydd Sul 24 Rhagfyr
  • Bydd casgliadau sydd i fod i gael eu cynnal ddydd Llun 1 Ionawr yn digwydd deuddydd yn gynharach, ddydd Sadwrn 30 Rhagfyr

Cofiwch y gallwch roi bag ychwanegol o wastraff cartref gweddilliol 'na ellir ei ailgylchu' (bag llwyd/du) allan ar eich diwrnod casglu cyntaf ar ôl y Nadolig.

Nid oes unrhyw newidiadau i'r hyn sydd i'w gasglu yn ôl yr amserlen arferol. Gwnewch yn siŵr bod eich cynwysyddion allan i'w casglu erbyn 6.30am.

Gwiriwch eich calendrau ar-lein neu cofrestrwch ar y gwasanaeth hysbysu trwy Fy Nghyfrif i weld pa eitemau sy'n cael eu casglu bob wythnos.

Bydd casgliadau'n dychwelyd i'r arfer o ddydd Mawrth 2 Ionawr 2024.

Am fwy o fanylion am wasanaethau'r Cyngor dros gyfnod y Nadolig, gan gynnwys mwy o wybodaeth am yr hyn y gellir ei ailgylchu, oriau agor y ganolfan gyswllt a Chanolfannau Gwastraff ac Ailgylchu, gweler: https://www.pembrokeshire.gov.uk/christmas-in-pembrokeshire