teras castell cyfnod cei'r de

Chwilio am weithredwr newydd ar gyfer prosiect adfywio Penfro

New operator to be sought for Pembroke regeneration project

Rhannu:

Bydd cam nesaf prosiect ailddatblygu Cei De Penfro yn cael ei gynnal yn ystod yr wythnosau nesaf.

Mae Ymddiriedolaeth Harri Tudur a Chyngor Sir Penfro yn gweithio mewn partneriaeth gyda'r nod o ddarparu atyniad ymwelwyr a hwb cymunedol o ansawdd uchel ar safle hanesyddol ac amlwg Cei y De, sydd ger Castell Penfro.

Bydd y cyfleuster newydd yn cynnwys atyniad newydd gwych i ymwelwyr a phobl leol, gan archwilio'r stori y tu ôl i enedigaeth Brenhinlin y Tuduriaid byd-enwog, o fewn tafliad carreg i fan geni'r brenin cyntaf, Harri Tudur.

Bydd hefyd yn cynnwys llyfrgell gyhoeddus fodern newydd, gwasanaeth gwybodaeth i ymwelwyr, gofod hyblyg a chaffi newydd, ynghyd â gwelliannau parth cyhoeddus a gerddi wedi'u tirlunio.

Esboniodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd y Cyngor, Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd, beth fydd yn digwydd nesaf.

“Mae'r ddwy ochr wedi cytuno y bydd angen gweithredwr profiadol sy’n meddu ar y wybodaeth a'r sgiliau angenrheidiol ar y cyfleuster i sicrhau llwyddiant y fenter newydd yn y dref,” meddai. 

“Gyda hynny mewn golwg, rydym ni’n dechrau ar gam nesaf y prosiect sef chwilio am weithredwr ar gyfer y cyfleuster.

“Yn ystod yr wythnosau nesaf, byddwn yn gweithio gyda'n gilydd ar y fanyleb ar gyfer y cyfle hwn a byddwn ni’n rhoi cyhoeddusrwydd eang i'w lansiad pan fydd yn barod.”

I gael rhagor o wybodaeth am brosiectau Cei'r De (camau 1 a 2) ewch i: https://www.sir-benfro.gov.uk/cynlluniaur-prosiect-adfywio/adfwyio-cei-de