English icon English
Cleddau Bridge Hotel site - Safle Gwesty Pont Cleddau

Datblygiad tai Gwesty Pont Cleddau yn cymryd cam ymlaen

Cleddau Bridge Hotel site housing development takes a step forward

Mae Grŵp Castell, mewn partneriaeth â Chyngor Sir Penfro, wedi cwblhau'r gwerthiant ar gyfer ailddatblygiad hen safle Gwesty Pont Cleddau.

Cafodd y safle yn Noc Penfro ei gaffael gan Castell yn ddiamod ym mis Ebrill 2024.

Ers hynny, mae cymeradwyaeth y Corff Cymeradwyo Cynllunio a Draenio Cynaliadwy wedi'i sicrhau, gan alluogi'r cwblhau a symud i'r cam nesaf i ddod â bywyd yn ôl i’r safle.

Mae'r safle wedi bod yn wag yn dilyn tân yn 2019, sydd wedi gadael yr adeilad wedi'i ddifrodi'n ofnadwy ac yn amharu ar y dirwedd leol.

Mae'r datblygiad newydd ar fin adfywio'r safle, gan ddod â buddsoddiad newydd a manteision economaidd i'r ardal.

Gan ddefnyddio grant tai cymdeithasol gan Lywodraeth Cymru, bydd y safle yn datblygu 35 o gartrefi mawr eu hangen i'r ardal.

Bydd y 35 cartref hyn yn amrywio o ran maint ac yn cynnwys tai fforddiadwy amrywiol, megis rhent cymdeithasol, â chymorth, a chanolradd.

Bydd yr holl dai yn eiddo i Gyngor Sir Penfro ac yn cael eu rhentu ganddo.’

Dywedodd Dorian Payne, Rheolwr Gyfarwyddwr Grŵp Castell: "Rydym yn falch iawn o gyrraedd y cam tyngedfennol hwn yn ailddatblygu safle Gwesty Pont Cleddau.

“Rydym yn gyffrous i symud ymlaen gyda'r gwaith adeiladu mewn cydweithrediad â Chyngor Sir Penfro.”

Mae'r cyhoeddiad am gwblhau'r contractau rhwng Grŵp Castell a Chyngor Sir Penfro yn dangos ymrwymiad y ddau barti i ddarparu tai o ansawdd uchel a dod â safleoedd tir llwyd yn ôl i ddefnydd.

Disgwylir i'r prosiect dorri tir cyn bo hir.

Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet dros Dai: "Mae'r safle hwn wedi bod yn adfail ers y tân yn 2019 felly mae'n newyddion gwych y bydd nawr yn cael ei ddatblygu'n dai fforddiadwy o ansawdd uchel.

“Rydym wedi ymrwymo i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy a bydd y datblygiad hwn, yn un o'n trefi mwyaf, yn chwarae rhan wrth ateb y galw am dai yn Sir Benfro."

Ychwanegodd y Cynghorydd Joshua Beynon, yr aelod lleol: "Rwy'n falch iawn o weld y Cyngor yn datblygu'r darn hwn o dir sydd wedi cael ei adael fel adfail ers iddo fynd ar dân rai blynyddoedd yn ôl. Tai yw'r hyn sydd ei angen arnom ac rwy'n falch iawn o'i weld yn digwydd yma."

Bydd angen i unrhyw un sydd â diddordeb mewn gwneud cais am un o'r cartrefi fod â chais cyfredol am dŷ.

Os oes gennych unrhyw ymholiadau, anfonwch e-bost at y Tîm Cyswllt Cwsmeriaid yn devCLO@pembrokeshire.gov.uk neu ffoniwch nhw ar 01437 764551, neu ewch i dudalen Facebook Tai: Gwasanaethau Tai Cyngor Sir Penfro | Cartref