English icon English
Leader Cllr Jon Harvey

Ethol y Cynghorydd Jon Harvey yn Arweinydd Cyngor Sir Penfro

Cllr Jon Harvey elected Leader of Pembrokeshire County Council

Etholwyd y Cynghorydd Jon Harvey yn Arweinydd newydd Cyngor Sir Penfro.

Cafodd y Cynghorydd Harvey, sy'n cynrychioli ward Penfro: Gogledd St Mary ei ethol yn Arweinydd yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol a gynhaliwyd ddydd Gwener Mai 10.

Yn Gynllunydd Tref yn ôl ei broffesiwn, treuliodd y Cynghorydd Harvey 12 mlynedd mewn amryw o rolau Swyddog Cynllunio mewn Llywodraeth Leol cyn symud i'r sector preifat a gyrfa ym maes cynllunio, adeiladu tai a datblygu ar lefel uwch.

Yn fwy diweddar, roedd yn Bennaeth Datblygu mewn Cymdeithas Tai yn Abertawe.

Mae’n dwlu ar gerddoriaeth a theatr, ac mae'r Cynghorydd Harvey wedi rheoli band roc indie, wedi hyrwyddo nifer o gigs yn lleol ac wedi bod yn rheolwr llwyfan dramâu gan gynnwys yn ffrinj Caeredin.

Yn briod â phedwar o blant sy'n oedolion, bu'r Cynghorydd Harvey yn Aelod Cabinet Cynllunio a Chyflenwi Tai o dan y cyn-Arweinydd, y Cynghorydd David Simpson.

Cafodd y Cynghorydd Harvey, nad yw'n gysylltiedig ag unrhyw grŵp, ei ethol i'r Cyngor am y tro cyntaf ym mis Medi 2018.

Dywedodd: "Mae'n anrhydedd mawr i mi sefyll o'ch blaen chi heddiw fel eich Arweinydd newydd ac nid yw'r cyfrifoldeb yn un rwy'n ei gymryd yn ysgafn.

"Rwy'n addo arwain gydag angerdd, ymroddiad, uniondeb, tryloywder a thosturi.

“Rwy'n argyhoeddedig os ydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd gyda phwrpas cyffredin ac yn gweithio tuag at nodau cyffredin y gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau'r preswylwyr hynny yr ydym yn eu gwasanaethu."

Bydd y Cynghorydd Harvey yn enwi ei Gabinet yn y dyddiau nesaf.