Cllr Tessa Hodgson, Cabinet Member for Social Care and Safeguarding

Ethol y Cynghorydd Tessa Hodgson yn Arweinydd Cyngor Sir Penfro

Cllr Tessa Hodgson elected Leader of Pembrokeshire County Council

Rhannu:

Mae'r Cynghorydd Tessa Hodgson wedi ei hethol yn Arweinydd newydd Cyngor Sir Penfro.

Etholwyd y Cynghorydd Hodgson yn Arweinydd yng Nghyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Cyngor a gynhaliwyd ddydd Gwener 15 Mai ac mae'n olynu'r Cynghorydd Jon Harvey na cheisiodd gael ei ailethol fel Arweinydd.

Y Cynghorydd Hodgson yw Arweinydd benywaidd cyntaf Cyngor Sir Penfro ac mae'n cynrychioli Ward Llandyfái.

Dywedodd y Cynghorydd Hodgson: "Mae'n anrhydedd fawr cael fy ethol yn Arweinydd Cyngor Sir Penfro. Diolchaf i'r Cynghorwyr Tinley a Clements am gynnig eu hunain hefyd a'r Cynghorwyr Alderman a Williams am fy nghynnig i a fy eilio.

"Mae'n foment bwysig i'r Cyngor ethol y fenyw gyntaf i'r swydd hon ond nawr mae'r gwaith caled yn dechrau.

"Rwy'n barod i weithio gyda phawb ar draws y siambr er budd yr holl drigolion a’r cymunedau yn Sir Benfro ac edrychaf ymlaen at yr heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau."

Etholwyd y Cynghorydd Hodgson am y tro cyntaf yn 2012 ac nid yw'n gysylltiedig ag unrhyw grŵp ar y Cyngor.

Yn 2017, ymgymerodd y Cynghorydd Hodgson â rôl yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Cymdeithasol a Diogelu ac yn fwyaf diweddar roedd yn Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol a Diogelu Oedolion.

Gyda chefndir mewn marchnata a busnes, mae'r Cynghorydd Hodgson wedi rhedeg sawl menter yn y sector lletygarwch a thwristiaeth.

Bydd y Cynghorydd Hodgson yn cyhoeddi ei Chabinet cyn bo hir.