English icon English
Tennis, golf and cricket - Tenis golff a chriced

Clybiau’n dod at ei gilydd i gynnig chwaraeon newydd

Clubbing together to try new sports

Clybiau, batiau a racedi oedd yn nwylo pawb wrth i fwy na 100 o blant ysgol roi cynnig ar golff, criced a thenis fis diwethaf.

Cynhaliodd Chwaraeon Sir Benfro ddigwyddiad Clybiau Cymunedol yng Nghlwb Tenis Hwlffordd ar gyfer plant Blwyddyn 3 a 4 o Ysgolion Fenton, Waldo Williams, Y Fair Ddihalog a Redhill.

Fe wnaeth Clwb Tenis Hwlffordd helpu'r bobl ifanc i fynd i'r afael â’u blaenllaw a’u gwrthlaw a gwnaeth Clwb Golff Hwlffordd fynd â disgyblion drwy sylfeini pytio a bod â swing golff da.

Golf - golff
 

Gwnaeth Martin Jones (Swyddog Datblygu Criced Cyngor Sir Penfro) hefyd roi cyfle i'r bobl ifanc fatio, bowlio a maesu a chynorthwywyd yr holl weithgareddau gan Lysgenhadon Ifanc Blwyddyn 7 ac 8 o Ysgol Uwchradd Hwlffordd.

Tennis - tenis

Darparodd Chwaraeon Sir Benfro daflenni gwybodaeth ar sut i barhau i gymryd rhan yn y chwaraeon yr oedd y plant wedi'u mwynhau ac roedd yr adborth yn nodi bod y digwyddiad wedi bod yn un cadarnhaol a phleserus.

Dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro: 'Roedd yn wych gweld cymaint o fechgyn a merched yn mwynhau eu hunain yn yr heulwen gogoneddus!

"Diolch yn fawr iawn i Glwb Tenis Hwlffordd am ddarparu'r lleoliad ac i'r holl ddarparwyr am y cyfleoedd. Gobeithio y bydd rhai o'r plant yn teimlo eu bod wedi'u hysbrydoli i ymuno â Chlwb Cymunedol lleol."

Cricket - criced