English icon English
Clarbeston Road AFC insport

Clybiau'n cyfuno ac yn ennill gwobr fawreddog

Clubs combine and pick up prestigious award

Clarbeston Road AFC yw'r clwb pêl-droed cyntaf yn Sir Benfro i ennill gwobr Clwb Insport Chwaraeon Anabledd Cymru (DSW).

Mae'r clwb wedi sicrhau Safon Arian Insport enwog DSW, sy'n cydnabod ymrwymiad y clwb i ymarfer cynhwysol.

Mae'r clwb wedi mynd o nerth i nerth ers i Clarbeston Road AFC gyfuno'n ffurfiol â Chlwb Pêl-droed Anabledd Cleddau Warriors a chreu Clarby Warriors.

Roedd Clarbeston Road wedi bod â chysylltiad erioed â Cleddau Warriors trwy ddarparu hyfforddwyr ar gyfer sesiynau hyfforddi a diwrnodau gêm ac arweiniodd hyn at uno a chreu Clarby Warriors.

Mae Chwaraeon Sir Benfro yn gweithio mewn partneriaeth â DSW i ddarparu'r rhaglen Clwb Insport. Mae'r rhaglen yn cefnogi clybiau i sicrhau eu bod nhw’n mabwysiadu arfer da yn eu dull o gynhwysiant a chyfranogiad cymunedol.

Mae'r clwb bellach yn anelu at safon Aur Clwb Insport, sy'n cynnwys ymarfer cynhwysol parhaus yn cael ei ddangos trwy addysg hyfforddwyr, polisïau, gweithdrefnau a llywodraethu.

Dywedodd Clarbeston Road AFC ei fod yn "falch iawn o dderbyn gwobr Arian Clwb Insport a gallu darparu cyfleoedd cynhwysol i bobl anabl."

Mae'r clwb yn croesawu chwaraewyr newydd o bob gallu yn ogystal â gwirfoddolwyr ac ar hyn o bryd mae'n sefydlu carfan Bechgyn a Merched gymysg hwyliog a chynhwysol newydd dan 16 oed.

I gael rhagor o wybodaeth am Clarby Warriors cysylltwch ag Ian Eynon 07849 528444 neu e-bostiwch ian_eynon@hotmail.com

Am fwy o wybodaeth am y rhaglen Clwb Insport, gweler: www.disabilitysportwales.com neu cysylltwch â Jessica.West@pembrokeshire.gov.uk