English icon English
Fishguard event - Digwyddiad Abergwaun

Digwyddiad clwb i bobl ifanc roi cynnig ar chwaraeon newydd

Clubs event inspires young people to try new sports

Mae mwy na 50 o bobl ifanc wedi mwynhau’r cyfle i roi cynnig ar chwaraeon newydd diolch i ddigwyddiad clybiau cymunedol Chwaraeon Sir Benfro.

Noddwyd y digwyddiad gan Valero a’i gynnal ar 1 Rhagfyr yng Nghanolfan Hamdden Abergwaun ar gyfer Ysgol Bro Gwaun a’i hysgolion bwydo.

Cynigiodd clybiau a darparwyr lleol sesiynau blasu criced, hunanamddiffyn, rhwyfo, dawns, hoci, tenis, tenis bwrdd, rygbi a phêl-fasged. Darparwyd dŵr yn garedig ar gyfer y digwyddiad gan Princes Gate.

Helpodd llysgenhadon ifanc o Ysgol Bro Gwaun y digwyddiad i redeg yn esmwyth.

Dywedodd Dan Bellis o Chwaraeon Sir Benfro: “Roedd yn noson ardderchog ac roedd yn wych bod cynifer o blant a hyfforddwyr yn bresennol.

“Roedd yna ystod eang o weithgareddau i’w mwynhau a chafodd pawb amser gwych.

“Gobeithio y bydd y bobl ifanc dan sylw wedi magu cariad at gamp neu weithgaredd newydd ac yn cysylltu eto â’r clybiau a’r darparwyr a fu’n cymryd rhan.”