Cynhadledd i dynnu sylw at gyfleoedd Dyframaeth Sir Benfro
Conference to highlight Pembrokeshire Aquaculture opportunities
Mae Cyngor Sir Penfro yn gwahodd gweithwyr proffesiynol, arbenigwyr a newydd-ddyfodiaid yn y diwydiant dyframaeth i Gynhadledd Dyframaeth gyntaf y sir.
Mae dyframaeth, yr arfer o ffermio bwyd môr, yn ddiwydiant twf i Sir Benfro.
Bydd y gynhadledd yn rhannu gwybodaeth, yn trafod arloesedd, ac yn archwilio'r tueddiadau diweddaraf mewn arferion dyframaeth cynaliadwy.
Bydd y digwyddiad yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Arloesi'r Bont, Doc Penfro, Ddydd Mercher, 28 Chwefror.
Drwy gydol y dydd bydd mynychwyr yn cael cyfle i ymgysylltu â chyflwyniadau a thrafodaethau panel dan arweiniad arbenigwyr y diwydiant ar bynciau fel ffermio morol, cadwraeth forol, dyfeisiadau diwydiant a llawer mwy. Bydd cyfle hefyd i glywed gan bobl sy'n gweithio yn y sector.
Dywedodd Donna Page, Swyddog Dyframaeth Cyngor Sir Penfro: “Nod y gynhadledd hon yw cefnogi'r sector a chodi ymwybyddiaeth o'r potensial ar gyfer dyframaeth o fewn Sir Benfro a Chymru gyfan wrth estyn allan at gynulleidfa ehangach.
“Rydym yn gobeithio denu pobl i ddod at ei gilydd, adeiladu a thyfu partneriaethau, a gweithio tuag at gael llais cyfunol ar gyfer y diwydiant wrth symud ymlaen."
Mae'r gynhadledd yn cynnig llwyfan unigryw i ddysgu, cyfnewid syniadau, a chyfrannu at dwf y diwydiant hwn yn Sir Benfro.
I ddysgu mwy ac archebu eich tocyn ar gyfer y digwyddiad, ewch i: https://www.eventbrite.co.uk/e/pembrokeshire-aquaculture-conference-sir-benfro-cynhadledd-dyframaeth-tickets-816614745687?aff=oddtdtcreator
Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Ffyniant Gyffredin drwy raglen Ffyniant Bro Llywodraeth y DU.