Llongyfarchiadau i'r holl ddysgwyr ar ddiwrnod canlyniadau Safon Uwch a Chymwysterau Galwedigaethol
Congratulations to all learners on A-Level and Vocational Qualifications results day
Mae heddiw yn garreg filltir arwyddocaol i ddysgwyr ledled Sir Benfro wrth iddynt dderbyn eu canlyniadau Safon Uwch a Chymwysterau Galwedigaethol.
Mae'r Cyngor yn estyn ein llongyfarchiadau i'r holl ddysgwyr am eu gwaith caled, eu hymroddiad a'u dyfalbarhad. Mae'r cyflawniad hwn yn dyst i'w hymrwymiad a'u gwydnwch, yn enwedig mewn cyfnod heriol.
Rydym hefyd eisiau cydnabod a dathlu cefnogaeth ddiwyro teuluoedd, athrawon a staff ysgolion. Mae'r anogaeth a'r arweiniad hwn wedi bod yn allweddol wrth helpu dysgwyr i gyrraedd y diwrnod pwysig hwn.
I'r dysgwyr, p'un a wnaethoch chi gyflawni'r graddau roeddech chi'n gobeithio amdanynt neu'n wynebu heriau annisgwyl, cofiwch mai dim ond un cam yn eich taith yw hon. Mae llawer o lwybrau i lwyddiant, ac mae'r canlyniadau heddiw yn ddechrau ymdrechion y dyfodol.
Dywedodd yr Aelod Cabinet dros Addysg a'r Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham: "Rydym yn llongyfarch pob dysgwr ar eu cyflawniadau. Mae parhau i drosglwyddo'n ôl i arholiadau allanol wedi bod yn her y mae'r dysgwyr hyn wedi'i wynebu yn llwyddiannus.
“Mae cyflawniadau’r dysgwyr i'w canmol a'u dathlu. Hoffwn ddymuno pob llwyddiant iddynt ar gyfer eu dyfodol."
Mae'r Cyngor yn annog dysgwyr i ymfalchïo yn eu cyflawniadau ac edrych ymlaen at y cyfleoedd cyffrous sydd o'u blaenau.
I'r rhai a allai fod angen cymorth neu arweiniad ychwanegol, mae adnoddau ar gael i'w helpu i lywio eu camau nesaf a bydd hyn ar gael yn yr ysgolion.
Unwaith eto, llongyfarchiadau i'r holl ddysgwyr a'u teuluoedd. Rydym yn hynod falch o'ch cyflawniadau ac yn dymuno pob llwyddiant i chi yn eich holl ymdrechion yn y dyfodol.