English icon English
llyfrau

Lansio ymgynghoriad ar newidiadau i'r Gwasanaeth Llyfrgell

Consultation launched on changes to Library Service

Mae Cyngor Sir Penfro wedi lansio ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r Gwasanaeth Llyfrgell.

Gofynnir i'r cyhoedd am adborth ar newidiadau arfaethedig i Lyfrgelloedd Aberdaugleddau, Penfro a Doc Penfro.

Yn dilyn Asesiad Anghenion Llyfrgell yr haf diwethaf a oedd yn gofyn i'r cyhoedd am eu anghenion llyfrgell ac am ffyrdd o leihau costau cynnal fel rhan o ofynion cynilo ar draws y Cyngor, daeth yn amlwg nad oedd ymatebwyr yn cefnogi cau llyfrgelloedd, gan ddisodli staff â thechnoleg mynediad 24/7 neu leihau'r gronfa lyfrau.

Rhoddwyd mwy o gefnogaeth i leihau costau drwy gydleoli neu greu llyfrgelloedd llai o faint, gweithio gyda gwirfoddolwyr neu leihau oriau agor.

Gan weithio ar sail bod gofyniad i arbed 20% o bosibl ar gyfer y Gwasanaeth Llyfrgell, cynigir y newidiadau canlynol:

  • Llyfrgell Aberdaugleddau: naill ai adleoli'r llyfrgell mewn safle llai/rhatach neu sefydlu Partneriaeth a Reolir gan y Gymuned yn y llyfrgell gyfredol.

Cynhelir Cyfarfod Cyhoeddus ddydd Llun 3 Chwefror 2025, yn dechrau am 6.30pm yn Llyfrgell Aberdaugleddau i amlinellu sut y byddai'r opsiwn i sefydlu Partneriaeth a Reolir gan y Gymuned yn gweithio. Mae croeso i bawb.

  • Llyfrgell Penfro: y cynnig yw lleihau’r oriau agor wyth awr yr wythnos.
  • Llyfrgell Doc Penfro: y cynnig yw lleihau’r oriau agor saith awr yr wythnos. Rydym hefyd yn edrych ar opsiynau i rannu’r lle sydd yn y llyfrgell gyda thrydydd parti i leihau costau.

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriadau, dilynwch y dolenni isod.

Mae cwsmeriaid yn aml yn defnyddio mwy nag un llyfrgell, felly mae croeso i chi gymryd rhan mewn unrhyw un / pob un o'r arolygon.

Mae copïau papur o'r ymgynghoriadau ar gael ym mhob un o'r tair llyfrgell.

Bydd yr arolygon papur yn parhau tan 5pm, ar 17 Chwefror 2025, pan fydd yr ymgynghoriadau yn cau.

Bydd yr arolwg ar-lein hefyd yn cau ar yr un pryd.

Os bydd gofyniad arbedion y Gwasanaeth Llyfrgell yn cynyddu neu'n gostwng o 20% yn dilyn cyfarfod cyllideb y Cyngor ar 20 Chwefror, bydd ymgynghoriad newydd yn cael ei gynnal ynghylch unrhyw gynigion ychwanegol neu wahanol ar gyfer newid.

Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet ar faterion Gwasanaethau i Drigolion: "Mae Asesiad Anghenion Llyfrgell y llynedd wedi helpu i lunio'r cynigion presennol mewn ffordd sy'n osgoi cau llyfrgelloedd a rhai o'r effeithiau negyddol eraill  y dywedodd yr ymatebwyr wrthym eu bod yn eu herbyn.

“O ystyried y sefyllfa ariannol anodd sy'n effeithio ar y Cyngor, rydym wedi ceisio creu cynigion sy'n taro cydbwysedd sy'n parhau i ddarparu gwasanaeth llyfrgell poblogaidd tra hefyd yn darparu arbedion.

“Cymerwch yr amser i lenwi'r arolygon a rhoi adborth ar y cynigion cyn bod penderfyniadau yn cael eu gwneud.

“I'r rhai sy'n defnyddio Llyfrgell Aberdaugleddau, manteisiwch hefyd ar y cyfle i fynychu'r cyfarfod cyhoeddus ddydd Llun 3 Chwefror 2025, am 6.30pm.”