English icon English
Van county hall - Neuadd y Sir fan

Cyngor yn cytuno i newid i bremiwm treth gyngor eiddo gwag hirdymor

Council agrees change to long-term empty properties council tax premium

Mae Cynghorwyr Sir Penfro wedi pleidleisio i adolygu a symleiddio'r premiwm treth gyngor eiddo gwag hirdymor.

Yn flaenorol, roedd y premiwm yn cynyddu’n raddol. Fodd bynnag, cytunodd yr Aelodau ym mis Rhagfyr y bydd un gyfradd o 300% o 1 Ebrill 2025 yn berthnasol i bob eiddo sydd wedi bod yn wag am ddwy flynedd neu fwy. 

Dywedodd y Cynghorydd Joshua Beynon, Aelod Cabinet Cyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd:

"Mae'r premiwm ar waith i annog defnyddio cartrefi y mae dirfawr angen amdanynt yn Sir Benfro ac i leihau effaith cartrefi gwag ar y cymunedau o'u cwmpas.”

Mae'r premiwm yn ychwanegol at y tâl treth gyngor safonol ac mae'n berthnasol i'r tair elfen - y Cyngor, Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a Chynghorau Tref a Chymuned.

Gall trethdalwyr y cyngor sy'n adnewyddu eu heiddo wneud cais am eithriad treth gyngor y gellir ei gymhwyso i'r eiddo am uchafswm o 12 mis os oes angen gwaith atgyweirio mawr neu newid strwythurol arno.

Mae'r eithriad hwn yn golygu nad oes unrhyw dreth gyngor yn daladwy am y cyfnod hwn o 12 mis.

Os yw'r eithriad eisoes wedi'i ddyfarnu gall trethdalwyr wneud cais am ostyngiad dewisol, y gellir ei ddyfarnu hyd at lefel y premiwm eiddo gwag hirdymor. Mewn achosion o'r fath, mae'r tâl treth gyngor safonol yn dal i fod yn daladwy. 

Ystyrir pob achos yn ôl ei rinweddau ei hun ac mae'n ofynnol i drethdalwyr ddarparu manylion ysgrifenedig o'r gwaith sydd ei angen ynghyd â thystiolaeth ffotograffig.

Fel arfer, dyfernir y gostyngiad hwn am hyd at 12 mis.

Os ydych yn dymuno gwneud cais am y gostyngiad hwn, e-bostiwch revenue.services@pembrokeshire.gov.uk neu ysgrifennwch at y Gwasanaethau Refeniw, Neuadd y Sir, Hwlffordd, SA61 1TP.

Mae Cyngor Sir Penfro hefyd yn cymryd rhan yn y Cynllun Grant Cartrefi Gwag Cenedlaethol a fydd yn rhoi mynediad i berchnogion eiddo gwag i grant o hyd at £25,000 os yw eu heiddo'n bodloni'r meini prawf gofynnol a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am y grant hwn ar-lein: https://www.grantcartrefigwagcenedlaethol.cymru

Mae benthyciadau di-log ar gael hefyd a gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am bwy sy'n gymwys yn https://www.sir-benfro.gov.uk/tai-preifat/benthyciadau-cartrefi-gwag