Y Cyngor yn cyhoeddi newidiadau i gasgliadau gwastraff gweddilliol
Council announces changes to residual waste collections
Mae Cyngor Sir Penfro yn rhoi’r gorau i ddarparu bagiau llwyd a bydd yn mynd yn ôl i gasgliadau gwastraff gweddilliol (na ellir ei ailgylchu) mewn bagiau du sy’n cael eu darparu gan aelwydydd.
Cyflwynwyd y ddarpariaeth bagiau llwyd ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu yn 2019 er mwyn ategu newidiadau mawr i wasanaethau sydd wedi arwain at enwi Sir Benfro yn Sir orau Cymru ar gyfer ailgylchu dros y tair blynedd diwethaf.
Parhawyd darparu bagiau llwyd trwy gydol cyfnod Covid-19 yn sgil ei gyflwyno’n wreiddiol i ategu’r newidiadau i’r gwasanaeth. Fodd bynnag, fel rhan o fesurau’r arbedion i’r gyllideb y cytunodd y Cyngor arnynt yn gynt eleni, ni fydd Cyngor Sir Penfro yn danfon bagiau llwyd i aelwydydd, mwyach.
Bydd aelwydydd yn parhau i allu rhoi uchafswm o dri bag o wastraff na ellir ei ailgylchu allan bob tair wythnos ac ni fydd unrhyw newidiadau i ddyddiadau casglu gwastraff ac ailgylchu.
Mae’r cam i roi’r gorau i ddarparu bagiau llwyd yn golygu y bydd Sir Benfro yn gyson â mwyafrif helaeth Awdurdodau Lleol Cymru, gan gynnwys Cynghorau cyfagos Ceredigion a Sir Gâr, sydd hefyd yn gofyn bod aelwydydd yn darparu bagiau du ar gyfer casgliadau gwastraff nad oes modd eu hailgylchu.
Dylai trigolion barhau i ddefnyddio unrhyw fagiau llwyd presennol yn ôl yr arfer ac, wedyn, dylai aelwydydd ddefnyddio’u bagiau bin du safonol (60 litr) eu hunain ar gyfer gwastraff nad oes modd ei ailgylchu o hynny ymlaen.
Mae mwy o wybodaeth a chwestiynau cyffredin ar gael drwy'r casgliadau wrth ymyl y ffordd: tudalen casgliadau gwastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu ar wefan y Cyngor.
Bydd y stoc bagiau llwyd sy'n weddill ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu ar gael i aelwydydd ei gasglu o leoliadau ledled Sir Benfro heddiw (dydd Mercher, 20 Medi).
Bydd bagiau llwyd – un fesul aelwyd – ar gael o Ganolfannau Gwastraff ac Ailgylchu (fel rhan o apwyntiad wedi’i drefnu ymlaen llaw gyda’r Ganolfan), Canolfannau Hamdden, Derbynfa’r Gogledd yn Neuadd y Sir a Thornton.
Mae’r casgliadau hyn ar gael tra bydd y stoc yn para.
Mae cynwysyddion i helpu gyda Chasgliadau Ailgylchu’n parhau i gael eu darparu’n rhad ac am ddim ac maent ar gael i’w casglu o nifer o leoliadau ar draws Sir Benfro.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar y tudalennau Gwastraff ac Ailgylchu ar wefan y Cyngor.
Sylwch, ni fydd unrhyw newidiadau i wastraff ac ailgylchu ar hyn o bryd.
Meddai’r Cynghorydd Rhys Sinnett, yr Aelod Cabinet dros Wasanaethau Trigolion: “Fel pob Cyngor ar draws Cymru, mae Cyngor Sir Penfro yn wynebu pwysau mawr ar ein cyllideb.
“Ym mis Mawrth, cytunodd y Cyngor ar gyfres o fesurau arbedion i’r gyllideb, gan gynnwys rhoi’r gorau i ddarparu bagiau llwyd ar gyfer gwastraff gweddilliol.
“Defnyddiwch unrhyw fagiau llwyd sy’n weddill yn ôl yr arfer, yna defnyddiwch fagiau bin du safonol.
“Rwy’n diolch i gyhoedd Sir Benfro am ein helpu i fod y sir sydd orau yng Nghymru am ailgylchu eto a gobeithio gallwn barhau i wneud i Sir Benfro fod yn lle glanach a gwyrddach i fyw.”
Ar hyn o bryd, mae’r Cyngor yn cefnogi ymgyrch Llywodraeth Cymru sy’n amlygu bod 48% o’r eitemau sy’n cael eu rhoi allan ar ffurf gwastraff yn gallu cael eu hailgylchu naill ai trwy gasgliadau wrth ymyl y ffordd neu ein Canolfannau Gwastraff ac Ailgylchu.
O hynny, mae 17% yn wastraff bwyd. Roedd mwyafrif y gwastraff hwn wedi bod yn fwytadwy ond heb ei fwyta, er enghraifft bwyd hen ynghyd â gwastraff anfwytadwy, fel plisg wy. Pan fydd hyn yn digwydd, gofynnir i drigolion wacau’r gwastraff i gadi bwyd gwastraff ac ailgylchu’r pecynnu lle y bo’n bosibl, i helpu sicrhau mai Sir Benfro fydd ailgylchwr gorau Cymru o hyd.
Mae rhagor o wybodaeth am gasgliadau bwyd gwastraff ar gael hefyd ar wefan y Cyngor.