Cyngor yn cymeradwyo achos busnes terfynol y Porthladd Rhydd Celtaidd
Council approves Celtic Freeport full business case
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cymryd cam allweddol tuag at sicrhau dyfodol economaidd cryfach i'r sir drwy gymeradwyo achos busnes terfynol y Porthladd Rhydd Celtaidd heddiw (03/10/24).
Mae'r Porthladd Rhydd yn gyfle newydd i helpu Cymru i barhau i ddatblygu economi gystadleuol, gynhwysol a chynaliadwy yn fyd-eang.
Dywedodd y Dirprwy Arweinydd, y Cynghorydd Paul Miller, yr Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: "Mae hwn yn gyfnod hynod gyffrous i ddyfrffordd y Ddau Gleddau ac i Sir Benfro gyfan.
“Ni allem fod yn cyd-fynd yn agosach â dyheadau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru o ran trawsnewid ynni a'n rôl yw sicrhau ein bod yn creu'r amodau cywir ar gyfer buddsoddi a thwf yma yn Sir Benfro ac ar draws rhanbarth De-orllewin Cymru.
“Mae maint y cyfle sydd o'n blaenau i Ddyfrffordd y Ddau Gleddau ac i Sir Benfro yn enfawr ac rydym yn benderfynol o sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfle y mae'r chwyldro ynni hwn yn ei gynnig i dyfu economi Sir Benfro, i sicrhau buddsoddiad ac i greu a chynnal swyddi da.
“Mae'r diwydiant ynni yn elfen allweddol o economi Sir Benfro ac wedi bod ers y 1950au. Trawsnewidiodd dyfodiad y busnes hydrocarbon i ddyfrffordd y Ddau Gleddau y sir a'i ffyniant. Y diwydiant hwnnw yw'r prif rym economaidd yn Sir Benfro o hyd ond nid yw y grym yr oedd unwaith – gan fod pedair purfa wedi’u colli.
“Felly, mae angen i ni edrych i'r dyfodol, chwilio am gyfle ac ar hyn o bryd, rydym ar drothwy cyfle arall gyda'r potensial i fod mor drawsnewidiol â'r buddsoddiadau hynny yn y 50au.
“Mae'r cyfle hwn yn troi o gwmpas ynni glân, gwyrdd, adnewyddadwy yn y dyfodol ac yn benodol y potensial i Sir Benfro chwarae rhan allweddol yn y defnydd o ynni gwynt trwy ddylunio, saernïo, gweithredu a chynnal tyrbinau gwynt alltraeth – a hydrogen gwyrdd hefyd.”
Am fwy o wybodaeth am y Porthladd Rhydd Celtaidd ewch i'r wefan.