Canolfan Gyswllt y Cyngor yn dathlu 20 mlynedd o helpu cyhoedd Sir Benfro
Council Contact Centre celebrates 20 years of helping Pembrokeshire public
Mae tîm bach ac ymroddedig o staff cynorthwyol yng nghalon Cyngor Sir Penfro wedi bod yn dathlu dau ddegawd o ddarparu gwybodaeth a chymorth i'r cyhoedd.
Canolfan Gyswllt y Cyngor yn aml yw'r man galw cyntaf i drigolion ac ymwelwyr â Sir Benfro gael mynediad at llu o wasanaethau a gynigir gan yr Awdurdod Lleol.
Mae'r tîm yn ateb tua 21,000 o alwadau ffôn y mis ynghyd â thua 3,600 o ymholiadau digidol ar unrhyw beth, o reoli parcio a phlâu, i briodasau a gwastraff ac ailgylchu.
"Mae'r ganolfan gyswllt yn ymdrechu i ddarparu gwasanaeth rhagorol i'n trigolion, gan ddelio â galwadau ffôn, negeseuon e-bost, gwe-sgwrs ac ymholiadau digidol ar gyfer ystod lawn o wasanaethau'r cyngor, yn ogystal â chyfeirio cwsmeriaid at asiantaethau eraill a sefydliadau partner," meddai Jeremy James, rheolwr cyswllt cwsmeriaid.
Mae Jeremy wedi gweithio yn y ganolfan gyswllt am 19 o'r 20 mlynedd y mae bellach wedi bod yn gweithredu.
"Mae'n garreg filltir bwysig i'r tîm cyfan ac rydym yn edrych ymlaen at barhau i ddarparu gwasanaeth pwysig i bobl Sir Benfro am lawer mwy o flynyddoedd i ddod."
Dywedodd y Cynghorydd Neil Prior, Aelod y Cabinet dros Welliant Corfforaethol a Chymunedau: "Mae sicrhau ein bod yn gallu darparu mynediad hawdd i'n trigolion at wasanaethau'r Cyngor, boed yn ddigidol neu dros y ffôn, yn bwysig, ac mae ymrwymiad dyddiol tîm y ganolfan gyswllt bob amser yn creu argraff arnaf, p'un a ydynt yn delio ag ymholiadau syml neu fwy cymhleth.
"Rydyn ni'n parhau i weithio'n galed i geisio ei gael yn iawn y tro cyntaf, ac i ddatblygu ein cynnig digidol i sicrhau bod pobl yn gallu delio â ni yn y ffordd maen nhw'n dewis.
"Mae'r pen-blwydd hwn yn gyfle gwych i ddiolch i'r tîm sy'n gwneud eu gorau mewn amgylchedd heriol yn ddyddiol."
Gallwch gysylltu â Chyngor Sir Penfro drwy ffonio 01437 764551 neu anfon neges e-bost at enquiries@pembrokeshire.gov.uk