Leisure class - Dosbarth hamdden

Y Cyngor yn parhau â chynllun aelodaeth hamdden am ddim ar gyfer gofalwyr di-dâl

Council continues successful free leisure memberships scheme for unpaid carers

Rhannu:

Bydd gofalwyr di-dâl yn Sir Benfro yn parhau i allu manteisio ar aelodaeth hamdden am ddim yn y Sir, diolch i fenter gan Gyngor Sir Penfro.

Yn gynharach y mis hwn, cytunodd Aelodau'r Cabinet yn unfrydol i barhau â'r cynllun Pasbort i Hamdden.

Mae Pasbort i Hamdden yn rhoi chwe mis o aelodaeth hamdden am ddim i ofalwyr di-dâl, gan roi cyfle iddynt fwynhau gwneud ymarfer corff, cymryd seibiant o'u cyfrifoldebau gofalu a chefnogi eu hiechyd a'u lles corfforol a meddyliol eu hunain.

Nododd yr adroddiad fod y cynnig wedi cael derbyniad da a’r niferoedd sy’n ei ddefnyddio yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn a gofalwyr yn sôn am fanteision ymarfer corff a chyfleoedd i ffwrdd o'u cyfrifoldebau gofalu.

Er bod yr aelodaeth am gyfnod o chwe mis, pwysleisiodd aelodau'r Cabinet nad yw'r cynllun wedi'i gyfyngu i un aelodaeth am chwe mis.

Gall gofalwyr cymwys sydd â Cherdyn Cydnabod Gofalwr dilys ailymgeisio am delerau aelodaeth chwe mis ychwanegol, ar yr amod bod cyllid ar gael.

Dywedodd y Cynghorydd Alistair Cameron, Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol i Oedolion: "Rwy'n falch iawn bod cydweithwyr y Cabinet wedi rhoi eu cefnogaeth unfrydol i barhau â'r cynllun gwych hwn.

"Mae cefnogi ein gofalwyr di-dâl yn Sir Benfro yn flaenoriaeth ac mae'r adborth gan ofalwyr yn tanlinellu pa mor bwysig yw'r aelodaeth rhad ac am ddim i iechyd corfforol a meddyliol pobl ac i'w helpu yn eu rolau gofalu hanfodol."

Cytunodd y Cabinet yn unfrydol i barhau â'r trefniadau a'r cyllid presennol, gan ailddatgan ymrwymiad y Cyngor i gydnabod a chefnogi'r cyfraniad hanfodol y mae gofalwyr di-dâl yn ei wneud mewn cymunedau ledled y sir.

Am ragor o wybodaeth am y cynllun gweler https://hamddensirbenfro.co.uk/dewiswch-aelodaeth/unpaid-carers-membership/

Mae cymorth a gwybodaeth i ofalwyr sy'n oedolion ar gael yn:

https://ctcww.org.uk/cy/gwasanaethau/cymorth-gofalwyr-sir-benfro/

Ffôn: 0300 0200 002

E-bost: carerssupportpembs@ctcww.org.uk

 Young Carers Support Pembrokeshire, sy’n cefnogi gofalwyr ifanc hyd at 25 oed

https://mediaacademycymru.wales/young-carers/           

Ffôn: 02920 6677 668 / 01437 457303

E-bost: youngcarers@mediaacademycymru.wales