Arweinydd y Cyngor yn cyhoeddi'r Cabinet
Council Leader announces Cabinet
Heddiw mae Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey, wedi enwi ei Gabinet.
Mae'r Cynghorydd Joshua Beynon a Jacob Williams yn ymuno â'r Cabinet am y tro cyntaf.
Mae'r Cynghorydd Alec Cormack, a wasanaethodd fel Aelod Cabinet Cyllid Corfforaethol o dan yr Arweinydd blaenorol, y Cynghorydd David Simpson, wedi penderfynu rhoi'r gorau i ddyletswyddau Cabinet.
Bydd y Cynghorydd Beynon yn gyfrifol am y portffolio Cyllid Corfforaethol ac Arbedion tra bydd y Cynghorydd Williams yn gyfrifol am Gynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio.
Bydd y Cynghorydd Paul Miller yn parhau fel Dirprwy Arweinydd.
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cynghorydd Harvey: "Rwy'n falch iawn o gyhoeddi fy Nghabinet sy'n cadw cymysgedd cryf o Aelodau profiadol sy'n deall eu portffolios, ond sydd hefyd yn ychwanegu syniadau newydd a ffyrdd newydd o feddwl trwy'r Cynghorydd Beynon a’r Cynghorydd Williams.
Y Cynghorydd Jon Harvey, Arweinydd Cyngor Sir Penfro.
"Diolch i'r Cynghorydd Cormack am ei holl waith fel Aelod Cyllid Corfforaethol dros y blynyddoedd diwethaf yn ystod cyfnod economaidd anodd ac edrychaf ymlaen yn awr at gael gweithio gyda fy nghydweithwyr yn y Cabinet a chyflawni blaenoriaeth y Cyngor o gydweithio, gwella bywydau."
Mae'r Cabinet yn cwrdd am y tro cyntaf ddydd Llun, am 10am.
Y Cabinet llawn yw:
Y Cynghorydd Jon Harvey, Arweinydd y Cyngor.
Y Cynghorydd Paul Miller – Dirprwy Arweinydd y Cyngor a'r Aelod Cabinet Lleoedd, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd.
Y Cynghorydd Tessa Hodgson – Aelod Cabinet Gofal Cymdeithasol a Diogelu.
Y Cynghorydd Michelle Bateman – Aelod Cabinet Tai.
Neil Prior – Aelod Cabinet Cymunedau, Gwella Corfforaethol a Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.
Jacob Williams – Aelod Cabinet Cynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio.
Y Cynghorydd Joshua Beynon – Aelod Cabinet Cyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd.
Y Cynghorydd Rhys Sinnett – Aelod Cabinet Gwasanaethau Trigolion.
Y Cynghorydd Guy Woodham – Aelod Cabinet Addysg a'r Gymraeg.