English icon English
Cllr David Simpson, Leader of Pembrokeshire County Council

Arweinydd y Cyngor yn cadarnhau ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i’w swydd

Council Leader confirms intention to stand down

Mae Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd David Simpson, wedi cadarnhau ei fod yn bwriadu rhoi’r gorau i’w swydd fis nesaf.

Ni fydd y Cynghorydd Simpson, sydd wedi bod yn Arweinydd ers mis Mai 2017, yn sefyll i gael ei ail-ethol yn Arweinydd y Cyngor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ym mis Mai. 

Wrth gadeirio ei gyfarfod olaf o’r Cabinet fel Arweinydd ddydd Llun, dywedodd y Cynghorydd Simpson ei fod yn edrych ymlaen at dreulio mwy o amser gyda’i deulu.

Dywedodd y Cynghorydd Simpson: “Hoffwn i ddiolch i’m cyd-Aelodau o’r Cabinet am eu hymrwymiad i’w rolau a’r gefnogaeth maen nhw wedi’i rhoi i mi yn bersonol dros y saith mlynedd diwethaf.

“Hoffwn i hefyd gofnodi fy niolch i holl staff y Cyngor am y gwaith caled maen nhw’n ei wneud ym mhob adran. 

“Rwy’n gwybod pa mor ymroddedig yw’r staff yma, sy’n ymdrechu i wella bywydau pobl yma yn Sir Benfro.

“Rhaid i mi ddiolch hefyd i bobl Sir Benfro. 

“Mae hi wedi bod yn fraint fawr i fod yn Arweinydd eich cyngor a rhan orau’r swydd fu cyfarfod â chynifer o bobl sy’n ymroddedig i sicrhau bod y sir hon yn lle gwell i fyw a gweithio.” 

Bydd y Cynghorydd Simpson yn parhau i wasanaethu fel Cynghorydd Sir dros Lanbedr Felffre.

Bydd Arweinydd newydd Cyngor Sir Penfro yn cael ei ethol yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol ddydd Gwener 10 Mai. 

Bydd y cyfarfod yn dechrau am 11am a chaiff ei weddarlledu yn ôl yr arfer.