English icon English
Cllr Mike Stoddart

Teyrnged Arweinydd y Cyngor i'r Cynghorydd Mike Stoddart

Council Leader’s tribute to Cllr Mike Stoddart

Mae Cyngor Sir Penfro yn hynod o drist o glywed am farwolaeth Mike Stoddart, Cynghorydd Sir Aberdaugleddau Hakin, ddydd Sul, 4 Ionawr.

 

Ymunodd y Cynghorydd Stoddart â Chyngor Sir Penfro yn dilyn yr etholiadau ym mis Mehefin 2004.

Yn gyn-newyddiadurwr a sefydlodd bapur newydd y Milford Mercury gyda'i deulu, mae'r Cynghorydd Stoddart wedi gwasanaethu ar y Cyngor ochr yn ochr â'i wraig Vivien, Cynghorydd Sir Aberdaugleddau Hubberston a'i ferch Tessa Hodgson, Cynghorydd Sir Llandyfái a’r Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol Oedolion

Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: "Cefais sioc enfawr o glywed am farwolaeth y Cynghorydd Mike Stoddart dros y penwythnos.

“Rwy'n estyn cydymdeimlad pawb yn y Cyngor i'w deulu a’i ffrindiau lawer.

“Roedd Mike yn enghraifft wych o'r hyn y dylai rhywun mewn gwleidyddiaeth leol fod – gweithio i'w etholwyr a mynnu gwell iddynt. 

“Roedd Mike yn falch o fod yn ddi-flewyn-ar-dafod. Byddai'n sefyll ei gornel gydag argyhoeddiad a gyda ffeithiau ar ei ochr bob amser.

“Fel Arweinydd, mae wedi fy nghadw i a llawer o fy rhagflaenwyr yn gadarn ar flaenau’n traed. Bydd y siambr a Sir Benfro gyfan yn llawer tlotach oherwydd ei golled.”