
Tîm rheoli llygredd y cyngor yn cwblhau prosiect cysylltu prif gyflenwad dŵr llwyddiannus i drigolion Trecŵn
Council Pollution Control Team drives successful mains water connection project for Trecwn residents
Mae cymuned yn Sir Benfro, lle mae aelodau ohoni wedi wynebu blynyddoedd o ddibynnu ar ddŵr potel, bellach yn elwa ar gyflenwad dŵr glân a dibynadwy o’r prif gyflenwad yn dilyn cwblhau prosiect a arweiniwyd gan dîm rheoli llygredd Cyngor Sir Penfro yn llwyddiannus.
Gweithiodd tîm rheoli llygredd y cyngor, Dŵr Cymru Welsh, Valley Management Services, Penfro Consultancy Limited, PipeworxGB Ltd, Young Bros, a thrigolion Heol Barham, Trecŵn, gyda’i gilydd i sicrhau’r cyflenwad dŵr newydd a’r cysylltiadau hir-ddisgwyliedig i’w tai, a wnaed yn bosibl diolch i gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU.
Mae’r prosiect hwn, y credir ei fod y cyntaf o’i fath yng Nghymru, yn nodi carreg filltir arwyddocaol wrth wella safonau byw trigolion Heol Barham, gan ddod â blynyddoedd o amharu i ben, a achoswyd gan gyflenwad dŵr preifat annibynadwy a diffygiol. Yn hollbwysig, cwblhawyd y prosiect heb roi unrhyw faich ariannol ar y gymuned leol.
Bu’n rhaid i drigolion Heol Barham a oedd yn cael eu heffeithio ddibynnu ar ddŵr potel ers 2019 oherwydd bod eu cyflenwad dŵr preifat wedi newid lliw ac wedi mynd yn afiach.
Datgelodd ymchwiliadau i’r cyflenwad dŵr gyrydu sylweddol yn y piblinellau, a darganfuwyd rhan a oedd wedi cwympo o dan rai cartrefi. Roedd risg wirioneddol y gallai’r system gyfan fethu. Byddai hyn wedi arwain at orfod ailgartrefu dros dro y teuluoedd a oedd yn cael eu heffeithio a oedd yn byw mewn eiddo ar Heol Barham, a oedd gynt yn eiddo i hen ganolfan arfau rhyfel y Llynges Frenhinol.
Nodwyd cysylltiad dŵr o’r prif gyflenwad newydd fel y datrysiad hirdymor i sicrhau dŵr yfed diogel i’r trigolion. I ddechrau, rhagwelwyd y byddai’n rhaid i berchnogion y tai gyfrannu’n ariannol, gan wynebu costau o sawl mil o bunnoedd fesul aelwyd o bosibl.
Yn ffodus, rhoddodd Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU, a chais llwyddiannus gan Nathan Miles o’r tîm rheoli llygredd, gyfle i ddod o hyd i ddatrysiad hyfyw, ochr yn ochr â chyfraniad ariannol gan Manhattan Loft Trecwn Ltd.
Ymgymerodd Dŵr Cymru â’r dasg o ddylunio’r rhwydwaith dŵr newydd a chynghori tîm y cyngor ar ofynion y rheoliadau dŵr er mwyn cysylltu’r tai â’r rhwydwaith newydd hwn. Ar ôl proses dendro, dyfarnwyd y contract i Young Bros i osod y brif bibell ddŵr ar ran Dŵr Cymru, gan barhau i fod yn gyfrifol am gysylltu pob tŷ â’r system yn unigol.
Roedd PipeworxGB Ltd yn gyfrifol am wneud y gwaith mewnol a’r cysylltiadau terfynol, gan gynnwys y gwaith o uwchraddio’r system rheoleiddio dŵr mewnol. Rheolodd Penfro Consultancy Limited y prosiect – o ddylunio’r cysyniad i’r adeiladu ar y safle – gan sicrhau bod yr holl randdeiliaid wedi ymgysylltu â’r prosiect, ac wedi ymrwymo i’w gyflawni.
Arweiniodd Jon Murphy o dîm llygredd Cyngor Sir Penfro y cyfathrebu ar y safle ac ar-lein, gan sicrhau yn rhagweithiol fod y gymuned yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf a theimlo eu bod yn cael eu cefnogi yn ystod cyfnod cyfan y prosiect. Roedd Jon yn gyswllt allweddol â Dŵr Cymru a’r Arolygiaeth Dŵr Yfed, gan roi llais i drigolion Heol Barham yn ystod y trafodaethau a oedd yn mynd rhagddynt.
Cwblhawyd y prosiect yn gynharach eleni, ac mae pob tŷ ar Heol Barham bellach wedi’i gysylltu’n llawn â’r prif gyflenwad dŵr glân newydd.
Mynegodd Glyn Jones, un o drigolion Heol Barham, ei ddiolchgarwch, gan ddweud: “Heb os, os nad oedd Cyngor Sir Penfro wedi ymdrin â’r mater, gallem fod yn dal i yfed dŵr a oedd yn methu’r prawf iechyd safonol gofynnol. Alla i ddim diolch digon i’r cyngor am barhau i’n helpu dros y pum mlynedd neu fwy diwethaf. Diolch i’r tîm.”
Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, Aelod y Cabinet dros Gynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio: “Mae mynediad at ddŵr yfed glân yn un o’n anghenion sylfaenol, ac mae’n drueni mawr bod y sefyllfa hon wedi parhau am gymaint o amser. Ond, rydw i wrth fy modd, oherwydd y prosiect hwn, y bydd dŵr glân yn rhedeg o dapiau yn Heol Barham unwaith eto.”
Ychwanegodd y Cynghorydd Delme Harries, y cynghorydd lleol dros Fro Gwaun: “Mae hyn yn newyddion cadarnhaol iawn i drigolion Heol Barham a fydd yn gweld gwelliant mawr yn eu safonau byw.Bydd y prosiect hwn yn cael effaith sylweddol ar fywydau ein trigolion.
“Bydd dŵr yfed o ansawdd well yn arwain at ganlyniadau iechyd gwell ac ansawdd bywyd uwch i bawb yn ein cymuned. Rydw i am ddiolch i bawb a gefnogodd y prosiect hwn i wneud yn siŵr y byddai’n dwyn ffrwyth – ac i drigolion Heol Barham am eu hamynedd a’u cydweithrediad.”
Ychwanegodd Nial Rees a Huw Jones, asiantiaid rheoli Manhattan Loft Trecwn Ltd: “Mae ein dyled yn fawr i’r awdurdod lleol a’i dîm rheoli am y cymorth a gynigwyd i drigolion Heol Barham. Mae Dŵr Cymru, ei gontractwyr a’i isgontractwyr, wedi gweithio’n gyflym ac yn effeithlon i sicrhau newid di-dor i brif gyflenwad dŵr.
“Hoffwn ddiolch hefyd i Lywodraeth y DU am gefnogi’r fenter drwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Dywedodd llefarydd ar ran yr Arolygiaeth Dŵr Yfed: “Roedd yr arolygiaeth yn falch o’r newyddion bod Cyngor Sir Penfro wedi defnyddio ychydig o’r arian a gafodd o Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU i gysylltu cymuned wledig â’r prif rwydwaith dŵr.
“Roedd y cyflenwad dŵr preifat oedd yn cael ei rannu yn afiach, â lliw budr, ac yn annigonol, ac felly bydd cysylltu â’r prif gyflenwad, gyda dŵr glân, o fudd uniongyrchol i iechyd y gymuned hon. Yn aml, mae cyflenwadau dŵr preifat sy’n cael eu rhannu yn dioddef o ddiffyg rheolaeth, perchnogaeth a buddsoddiad, sy’n gallu arwain at gyflenwad annigonol neu afiachus neu sy’n berygl i iechyd.
“Mae’r arolygiaeth yn ystyried mai’r ffordd fwyaf effeithiol o gywiro problem cyflenwadau o’r fath yn yr hirdymor yw cysylltu â’r prif rwydwaith dŵr pan fo modd.”
Ychwanegodd Robert Davies, Rheolwr Gyfarwyddwr Penfro Consultancy, “Mae Penfro Consultancy yn parhau i fod yn ymroddedig i gefnogi datblygiadau blaengar ledled Sir Benfro a thu hwnt, gan helpu i feithrin cymunedau gwydn a chynaliadwy trwy arweinyddiaeth arbenigol ar brosiectau. Da iawn i’r tîm cyfan am eu hymroddiad i’r cynllun hwn.”