Y Cyngor yn symud anifeiliaid i atal dioddefaint
Council removes animals to prevent suffering
Mae Dydd Mawrth, 18 Ebrill, fe wnaeth tîm Iechyd a Lles Anifeiliaid Cyngor Sir Penfro, fel rhan o ymgyrch amlasiantaeth, atafaelu da byw a chŵn o dir yn y Ridgeway, Llandyfái.
Pwrpas y camau gweithredu oedd atal dioddefaint dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006.
Symudwyd cyfanswm o 94 o anifeiliaid: un fuwch, pum ci, 19 o ddofednod amrywiol, 26 dafad a 43 mochyn.
Bu Swyddogion y Cyngor yn gweithio gyda Heddlu Dyfed-Powys, yr RSPCA, milfeddygon lleol a milfeddygon yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion.
Mae cefndir y camau gweithredu’n cynnwys erlyniad blaenorol Richard Scarfe o Ddoc Penfro.
Cafwyd Scarfe yn euog o droseddau lluosog yn gysylltiedig â lles anifeiliaid ar 26 Ionawr 2022 a chafodd ei wahardd rhag cadw gwartheg, defaid, moch, geifr ac asynnod am gyfnod o bum mlynedd.
O dan Deddf Lles Anifeiliaid 2006, ni chaniateir i unrhyw un sydd wedi cael ei wahardd o dan y ddeddf hon fod yn berchen ar, cadw na chymryd rhan mewn cadw anifeiliaid, neu fod yn barti i drefniant y mae hawl ganddynt oddi tano i reoli neu ddylanwadu ar y ffordd y cedwir anifeiliaid.
Yn ystod ymweliadau dilynol gan Swyddogion Iechyd Anifeiliaid o Gyngor Sir Penfro, fe wnaeth swyddogion weithredu ar benderfyniad Adran 18 gan gydweithwyr milfeddygol fod anifeiliaid oedd ar y safle o hyd yn dioddef neu'n debygol o ddioddef os na fyddant yn cael eu symud oddi yno.
Symudwyd yr holl anifeiliaid i fan diogel lle cafodd eu hanghenion milfeddygol eu hasesu a'u gofal ei fonitro.
Bydd mwy o gamau gweithredu yn dilyn.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod y Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Rwy'n canmol camau’r Swyddogion y Cyngor a phartneriaid i symud yr anifeiliaid hyn, i atal dioddefaint ac amddiffyn eu lles.
"Rwy'n gobeithio y bydd y camau hyn yn rhwystr i bobl eraill y bydd Cyngor Sir Penfro yn gweithredu'n bendant yn eu herbyn lle bydd achosion difrifol o esgeulustod anifeiliaid a dioddefaint yn codi."