Y Cyngor yn sicrhau gorchymyn troi allan yn dilyn ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ac ôl-ddyledion rhent
Council secures eviction following persistent anti-social behaviour and rent arrears
Mae tenant Cyngor o Dre-fin wedi cael ei throi allan fel rhan o ymrwymiad parhaus Cyngor Sir Penfro i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol (ASB) a diogelu cymunedau ledled y sir.
Llwyddodd Tîm Tai Cyngor Sir Penfro i sicrhau gorchymyn meddiant ar gyfer eiddo ym Mryn y Derwydd, Tre-fin, yn dilyn cyfnod hir o ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol a chroniad ôl-ddyledion rhent sylweddol.
Ar 4 Tachwedd 2026, rhoddodd y Llys orchymyn meddiant llawn yn ei gwneud yn ofynnol i'r tenant adael yr eiddo o fewn 14 diwrnod. Hefyd, dyfarnodd y Llys gostau o £4,632.20 i'r Cyngor.
Digwyddodd hyn ar ôl patrwm parhaus o dorri'r Contract Meddiannaeth, gan gynnwys:
- Ôl-ddyledion rhent difrifol ar lefel sy'n bodloni'r seiliau gorfodol dros feddiant.
- Ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus a gafodd effaith negyddol sylweddol ar drigolion cyfagos a'r gymuned ehangach.
- Methu â chynnal a chadw'r eiddo a'r ardd, gan gynnwys croniadau o faw cŵn, eitemau cartref a sbwriel.
- Methu â darparu mynediad ar gyfer gwaith gwasanaethu a chynnal a chadw hanfodol.
Roedd y tenant, Ms Julia Goodgame o Fryn y Derwydd, Tre-fin, wedi pledio'n euog yn flaenorol i dorri Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn dilyn erlyniad gan Gyngor Sir Penfro am fethu â rheoli ei chŵn. Roedd hi hefyd wedi derbyn Gorchymyn Ymddygiad Troseddol a Gorchymyn Fforffedu ac Atafaelu yn ymwneud â'i chŵn.
Er gwaethaf camau gorfodi blaenorol ac ymdrechion i fynd i'r afael â'r problemau, parhaodd yr ymddygiad, gan arwain at bryder, niwsans a gofid parhaus i drigolion lleol. O ganlyniad, dilynodd y Cyngor achos meddiant i amddiffyn y gymuned a chynnal safonau tenantiaeth.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod Cabinet ar faterion Tai: "Mae Cyngor Sir Penfro wedi ymrwymo i sicrhau bod ein tenantiaid yn gallu mwynhau eu cartrefi a'u cymunedau heb ofni niwsans, ymddygiad gwrthgymdeithasol na thorri rheolau tenantiaeth barhaus. Er bod troi allan bob amser yn cael ei ystyried yn ddewis olaf, byddwn yn cymryd camau cadarn pan fo cytundebau tenantiaeth yn cael eu torri’n ddifrifol ac yn barhaus er gwaethaf ymyrraeth a chynnig cefnogaeth.
"Mae'r achos hwn yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi trigolion yr effeithir arnynt a chynnal cymunedau diogel, cynaliadwy. Byddwn yn parhau i weithio gyda'n partneriaid i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol a chymryd camau gorfodi pan fo angen.
Hoffai'r Cyngor atgoffa tenantiaid y gall torri eu Contract Meddiannaeth, gan gynnwys ymddygiad gwrthgymdeithasol, methiant i gynnal eiddo ac ôl-ddyledion rhent, arwain at gamau cyfreithiol ac, yn y pen draw, colli eu cartref.
Gall tenantiaid sy'n cael eu troi allan yn dilyn gorchymyn meddiant hefyd gael eu heithrio rhag ailymuno â'r gofrestr dai ac ni chaniateir iddynt gael eu hailgartrefu gan y Cyngor na'i bartneriaid drwy Gofrestr Tai Sir Benfro.