English icon English
Haffield case 2 - Haffield achos 2 cropped

Cyngor yn sicrhau gwaharddeb i gael gwared ar wastraff a sgrap

Council secures injunction to order removal of waste and scrap

Mae'n rhaid i ddyn o Sir Benfro symud ceir wedi’u gadael, sgrap a gwastraff arall o'i dir o fewn wythnosau neu wynebu dedfryd bosibl o garchar yn dilyn camau cyfreithiol gan Gyngor Sir Penfro.

Mae gan John Gruffydd Arthur Haffield o Fron Haul, Clunderwen, tan 9 Mai 2024 i glirio tir i'r dwyrain o Gower Villa Lane, Clynderwen ar ôl i'r Barnwr Rhanbarth Pratt roi gwaharddeb i'r Cyngor.

Gofynnodd y Cyngor am y waharddeb ar ôl i Mr Haffield fethu â chymryd camau i glirio'r tir yn dilyn Hysbysiad Gorfodi'r Cyngor a gyhoeddwyd yn 2018.

Plediodd Mr Haffield yn euog i fethu â chydymffurfio â'r Hysbysiad Gorfodi ym mis Mawrth 2021 ond ni fu ymdrech o hyd i glirio'r tir.

Haffield case 3 - Haffield achos 3

Os na fydd Mr Haffield yn cydymffurfio â'r waharddeb bydd yn euog o ddirmyg llys ac yn wynebu dedfryd bosibl o garchar a/neu ddirwy ddiderfyn.

Mae pryderon am gyflwr y tir yn Gower Villa Lane yn dyddio'n ôl i 2017 pan ddaeth cwyn i law Adran Gynllunio'r Cyngor.

Fe wnaeth ymweliadau â'r safle ddarganfod carafán statig, cerbydau wedi'u gadael, peiriannau, trelars, nwyddau gwyn a gwastraff cyffredinol sylweddol.

Ysgrifennodd y Cyngor at Mr Haffield yn gofyn i'r tir gael ei glirio o fewn 28 diwrnod.

Anfonwyd sawl llythyr arall cyn i Mr Haffield ymateb o'r diwedd ym mis Ionawr 2018, gan honni ei fod yn bwriadu clirio'r safle erbyn yr Awst hwnnw.

Pan na wnaed y gwaith hwnnw, cyhoeddwyd yr Hysbysiad Gorfodi.

Fe apeliodd Mr Haffield i ddechrau ond fe wnaeth methiant i gyfathrebu gyda'r Arolygiaeth Gynllunio weld yr apêl yn cau a'r erlyniad am fethu â chydymffurfio yn bwrw ymlaen.

Cafodd Mr Haffield ddirwy o £500 a'i orchymyn i dalu £550 mewn costau a gordaliad.

Haffield case 1 - Haffield achos 1

Yn y Llys Sirol yn gynharach y mis hwn, dywedodd y Barnwr Rhanbarth Pratt fod gan Mr Haffield ddiffyg dealltwriaeth o ddifrifoldeb yr achos.

Dyfarnwyd costau o £1,132 i'r Cyngor.

Mae'r waharddeb yn ei gwneud yn ofynnol i gael gwared ar bob cerbyd sy’n anaddas ar gyfer y ffordd, trelar blwch cymalog, carafán statig, tanciau amrywiol, teiars, pibellau, baddonau, gwresogydd patio, peiriannau, nwyddau gwyn, metelau sgrap, plastigau, pren a'r holl ddeunyddiau gwastraff eraill erbyn 9 Mai.

Rhaid gwaredu pob un o'r uchod mewn lleoliad awdurdodedig.

Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Aelod Cabinet y Cyngor dros Gynllunio a Chyflenwi Tai: "Rwy'n croesawu'r penderfyniad i roi'r waharddeb yn yr achos hwn a diolch i'r Timau Gorfodi Cynllunio a Chyfreithiol am eu gwaith

"Mae'n drueni bod y sefyllfa hon wedi cyrraedd pwynt lle nad yw'r Cyngor wedi bod ag unrhyw ddewis ond cymryd y cam gweithredu hwn.

"Mae'r achos hwn yn enghraifft dda o'r hyn sy'n digwydd os nad ydych yn ymgysylltu â chydweithwyr cynllunio neu'n anwybyddu hysbysiadau gorfodi. Ni fydd y broblem yn mynd i ffwrdd."