Mae’r cyngor yn sicrhau gorchymyn adennill meddiant tai yn dilyn gweithgarwch troseddol difrifol ac ymddygiad gwrthgymdeithasol yn Aberdaugleddau
Council secures possession order following serious criminal activity and anti-social behaviour in Milford Haven
Mae Cyngor Sir Penfro wedi sicrhau gorchymyn adennill meddiant yn erbyn deiliad y contract 34 Hawthorn Path, Aberdaugleddau, yn dilyn cyfnod hir o ymddygiad gwrthgymdeithasol difrifol, gweithgarwch troseddol, a thorri'r contract meddiannaeth.
Ar 4 Tachwedd 2026, rhoddodd y llys orchymyn adennill meddiant llawn yn ei gwneud yn ofynnol i Mr Andrew Mackie adael yr eiddo erbyn 18 Tachwedd 2026. Dyfarnodd y llys gostau o £571.50 i'r cyngor hefyd.
Mae'r achos yn dilyn patrwm parhaus o adroddiadau a thystiolaeth a gasglwyd yn ymwneud â niwsans difrifol, gweithgarwch troseddol, a thorri'r contract meddiannaeth sy'n gysylltiedig â'r cyfeiriad. Roedd y pryderon yn cynnwys gweithgarwch troseddol yn gysylltiedig â chyffuriau, ymddygiad niwsans parhaus, a thorri amodau tenantiaeth yn barhaus yn ymwneud â chynnal a chadw'r eiddo a'r ardd.
Bu tîm tai’r cyngor yn gweithio’n agos gyda Heddlu Dyfed-Powys drwy gydol yr achos, gan rannu gwybodaeth a chuddwybodaeth yn rheolaidd ynghylch gweithgarwch yn yr eiddo. Cyfrannodd y cydweithio hwn at achos troseddol llwyddiannus cynharach, a arweiniodd at Mr Mackie yn derbyn dedfryd o wyth mis o garchar am droseddau yn ymwneud â chyflenwi cyffuriau Dosbarth B.
Er gwaethaf ymgysylltu parhaus â'r tenant a'r gymuned leol yn dilyn ei ryddhau o'r ddalfa, parhaodd adroddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol ac roedd angen presenoldeb pellach gan yr heddlu. O ganlyniad, aeth y cyngor ati i gymryd camau adennill meddiant i amddiffyn trigolion a'r gymuned ehangach.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, yr Aelod Cabinet dros Dai:
"Mae gan bawb yr hawl i deimlo'n ddiogel yn eu cartref a'u cymdogaeth. Cafodd y gweithgarwch troseddol difrifol a'r ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n gysylltiedig â'r eiddo hwn effaith sylweddol ar drigolion cyfagos dros gyfnod estynedig. Er bod camau cyfreithiol bob amser yn cael eu hystyried yn ddewis olaf, mae'r achos hwn yn dangos y bydd y cyngor yn cymryd camau cadarn lle mae torri telerau tenantiaeth, gweithgarwch troseddol ac ymddygiad sy'n niweidio cymunedau yn parhau er gwaethaf ymyrraeth ac ymgysylltiad parhaus."
"Mae hyn yn dilyn achos adennill meddiant diweddar yn Nhre-fin, lle roedd y cyngor yn gallu troi tenant allan oherwydd ymddygiad gwrthgymdeithasol parhaus ac ôl-ddyledion rhent sylweddol. Gyda'i gilydd, mae'r achosion hyn yn dangos ein hymrwymiad parhaus i amddiffyn cymunedau, gan gefnogi tenantiaid yr effeithir arnynt gan niwsans a chymryd camau gorfodi priodol lle bo angen."
Mae Cyngor Sir Penfro yn parhau i fod yn ymrwymedig i weithio gyda thrigolion, Heddlu Dyfed-Powys ac asiantaethau partner i fynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol ledled y sir. Bydd y cyngor yn parhau i gymryd camau cadarn lle mae achosion difrifol o dorri rheolau tenantiaeth yn digwydd, gan gynnwys gweithgarwch troseddol, ymddygiad niwsans parhaus, esgeulustod eiddo ac ôl-ddyledion rhent sylweddol. Anogir trigolion sy'n profi ymddygiad gwrthgymdeithasol, neu denantiaid sy'n pryderu am ôl-ddyledion rhent a allai fod angen cymorth sy'n gysylltiedig â thai, i gysylltu â'r cyngor cyn gynted â phosibl. Mae cymorth a chyngor ar gael drwy ffonio 01437 764551 neu drwy anfon e-bost at housing@pembrokeshire.gov.uk.