Y Cyngor yn sicrhau gwasanaeth newydd yn lle Bwcabus fflecsi
Council secures replacement for fflecsi Bwcabus
Mae Cyngor Sir Penfro wedi cyhoeddi hwb calonogol i wasanaethau trafnidiaeth lleol drwy sicrhau gwasanaeth newydd yn lle’r gwasanaeth fflesci Bwcabus poblogaidd yr oedd disgwyl iddo ddod i ben y mis hwn.
Roedd disgwyl i wasanaeth Bwcabus ddod i ben ar 31 Hydref yn dilyn diwedd cyllid Llywodraeth Cymru drwy grant y Rhaglen Datblygu Gwledig.
Gan ddefnyddio rhan o'r gyllideb gwasanaeth bysiau lleol bresennol, mae Cyngor Sir Penfro wedi ariannu gwasanaeth newydd gyda'r gweithredwr Richards Bros o ddydd Mercher 1 Tachwedd tan 31 Mawrth 2024.
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu o 7am tan 6.30pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, gyda'r llwybrau sefydlog 642 a 644 yn parhau i weithredu.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Preswylwyr: "Rwyf wrth fy modd bod y Cyngor wedi gallu camu i’r adwy ac ariannu gwasanaeth newydd yn lle’r gwasanaeth Bwcabus tan ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf, a diolchaf i'r swyddogion am eu gwaith ar hyn.
"Rydym ni'n gwybod bod y gwasanaeth mor bwysig i lawer o bobl yn rhai o ardaloedd mwyaf gwledig Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion."
Gellir parhau i drefnu lle drwy'r ap fflecsi neu drwy ffonio 0300 234 0300.