Hunanasesiad y Cyngor: eisiau barn y cyhoedd
Council self-assessment: public views wanted
Bob blwyddyn mae Cyngor Sir Penfro yn cyhoeddi hunanasesiad o berfformiad y Cyngor.
Mae'r asesiad yn ystyried a yw'r Cyngor yn:
- arfer ei swyddogaethau'n effeithiol
- defnyddio adnoddau yn ddarbodus, yn effeithlon ac yn effeithiol
- rhoi llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau'r uchod.
Mae'r hunanasesiad yn ymwneud â sut mae'r sefydliad yn gweithredu yn ei gyfanrwydd ac nid yw'n asesiad o berfformiad gwasanaeth unigol.
Mae ystyried barn y cyhoedd yn rhan hanfodol o'r broses adolygu.
Gallwch roi eich barn ar Hunanasesiad Blynyddol 2025-26 drwy lenwi'r ffurflen ymateb ar-lein sydd ar gael yn:
https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/hunanasesiad-blynyddol-2025-26
Os hoffech gael copi papur o'r ffurflen ymateb, ffoniwch 01437 764551 neu e-bostiwch policy@pembrokeshire.gov.uk
Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion yw dydd Gwener, 28 Awst 2026.
Bydd fersiwn derfynol yr adroddiad hunanasesu yn cael ei gymeradwyo gan y Cyngor ym mis Hydref 2026 a bydd yn cael ei gyhoeddi ar wefan y Cyngor.