English icon English
County Hall

Datganiad gan y Cyngor yn dilyn Cyfarfod y Cabinet, 21 Mai

Council Statement following Cabinet Meeting, May 21st

Yn dilyn Cabinet ym mis Ebrill, daeth yn amlwg bod rhai pryderon ynglŷn â'r posibilrwydd bod y Cyngor yn casglu gwybodaeth am y dewisiadau ysgol a wneir gan rieni sy'n dewis Addysg Cyfrwng Cymraeg yn unig.

I leddfu’r pryderon hynny, penderfynodd y Cabinet heddiw i archwilio’r drefn o gasglu gwybodaeth am y dewisiadau ysgol a wneir gan yr holl rieni gan benderfynu fel a ganlyn;

Y bydd y Cyfarwyddwr Addysg yn cael y dasg o archwilio sut y gellir casglu’r galw am leoedd ysgol yn well. Yn benodol, dylai'r gwaith ganolbwyntio ar ddeall pwysigrwydd y gwahanol ystyriaethau i rieni, gan gynnwys:- dewis iaith; canlyniadau dysgu; ansawdd y cyfleusterau; darpariaeth trafnidiaeth; darpariaeth ADY, ac ati.

Wrth i'r Cyngor barhau i ystyried cynigion i foderneiddio ystad ysgolion, credwn ei bod yn bwysig bod y wybodaeth orau bosibl ar gael gennym i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau gwybodus er budd gorau disgyblion a rhieni.

 

Gallwch weld y gweddarllediad yn:https://pembrokeshire.public-i.tv/core/portal/webcast_interactive/986009