County Hall

Premiymau'r Dreth Gyngor ar gyfer 2027-28 – dweud eich dweud

Council Tax premiums for 2027-28 – have your say

Rhannu:

Mae Cyngor Sir Penfro yn gwahodd barn y cyhoedd ar premiymau'r Dreth Gyngor ar gyfer blwyddyn ariannol 2027-28.

Mae premiwm y Dreth Gyngor yn ychwanegol at dâl safonol y Dreth Gyngor sy'n cynnwys praeseptau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Dyfed-Powys a Chynghorau Tref a Chymuned.

Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn ar lefel y premiymau Treth Gyngor yn y dyfodol a gymhwysir i ail gartrefi ac eiddo gwag hirdymor yn Sir Benfro.

Bydd adborth a gesglir yn helpu i lywio penderfyniadau yn y dyfodol ar y premiymau a sut mae unrhyw incwm a gynhyrchir yn cael ei ddefnyddio i gefnogi blaenoriaethau lleol.

Dywedodd y Cynghorydd Jon Harvey, Aelod Cabinet dros Gyllid Corfforaethol ac Effeithlonrwydd: "Rydym am glywed gan gymaint o bobl â phosibl ar y mater pwysig hwn.

"Trwy gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, gall trigolion a rhanddeiliaid helpu i lunio penderfyniadau yn y dyfodol a sicrhau bod ystod eang o safbwyntiau yn cael eu hystyried cyn i unrhyw argymhellion gael eu gwneud.

"Rhowch eich barn erbyn y dyddiad cau sef dydd Llun, 10 Awst 2026."

Mae'r ymgynghoriad yn darparu gwybodaeth gefndir am premiymau Treth y Cyngor, y sefyllfa leol bresennol a'r fframwaith deddfwriaethol y mae'r Cyngor yn gweithredu ynddi.

Dweud eich dweud

Mae'r ymgynghoriad ar gael ar-lein yn:

https://www.sir-benfro.gov.uk/dweud-eich-dweud/gosod-premiwm-y-dreth-gyngor-ar-gyfer-2027-28

Am gopïau papur ffoniwch 01437 764551 neu e-bostiwch revenue.services@pembrokeshire.gov.uk

Bydd penderfyniad terfynol ar yr opsiynau, gan gynnwys defnyddio unrhyw gyllid a godir gan y premiymau yn cael ei wneud gan y Cyngor llawn yn ei gyfarfod ar 15 Hydref 2026.  Bydd y penderfyniad hwn yn dod i rym o 1 Ebrill 2027.