Y Cyngor i arddangos ei wasanaethau yn Sioe Sir Benfro
Council to showcase services at the Pembrokeshire County Show
Mae Sioe Sir Benfro yn ôl unwaith eto – ac yn y digwyddiad eleni, ar 14 a 15 Awst, bydd Cyngor Sir Penfro yno fel siop un stop i ddarparu cymorth a gwybodaeth.
Unwaith eto bydd ein pabell yn gartref i dimau o bob rhan o’r awdurdod gan gynnwys recriwtio, gwastraff ac ailgylchu, adfywio, Diwydiannau Norman a llawer mwy.
Bydd ymwelwyr hefyd yn cael y cyfle i gwrdd ag Aelodau Cabinet a’r Prif Weithredwr Cynorthwyol a chael gwybod am lu o brosiectau diddorol ac arloesol sy’n digwydd ar draws y sir.
Bydd y babell wedi’i lleoli gyferbyn â’r cylchoedd neidio ceffylau a marchogaeth ym Mharth A (safle 9).
Fel dathliad o fywyd gwledig y sir, mae’r sioe yn llwyfan perffaith i ymgysylltu â chymunedau lleol ac ymwelwyr.
Bydd tîmau’r awdurdod yn cael y cyfle i ddangos beth maen nhw’n ei wneud – a thynnu sylw at y cyfoeth o gymorth sydd ar gael ynghyd â’r ystod eang o gyfleoedd gyrfa sydd gennym i’w cynnig.
Yn dilyn llwyddiant sioe y llynedd, rydym yn edrych ymlaen at ymgysylltu unwaith eto â chymunedau gwledig ac ehangach y sir wych hon.
Mae Sioe y Sir yn lle perffaith i ddathlu’r cynnyrch anhygoel sydd gennym i’w gynnig.
Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Le, y Rhanbarth a Newid Hinsawdd: “Mae Sioe y Sir yn ddathliad pwysig a mawr ei pharch o fywyd gwledig yn Sir Benfro, ac rydym yn falch iawn o fod yn rhan o’r digwyddiad unwaith eto. Bydd ein staff a’n haelodau’n sgwrsio â llawer o bobl o gymunedau ledled Sir Benfro – felly dewch draw i’n stondin i ddweud ‘Helo’ – rydym yn edrych ymlaen at gwrdd â chi.”
Dewch i ymweld â’n pabell a darganfod mwy am y gefnogaeth sydd ar gael a’n prosiectau trawsnewidiol, bydd yn gwella bywydau ein cymunedau ac ymwelwyr. Rydym yn edrych ymlaen eich gweld.
I gael diweddariadau a rhagor o wybodaeth am wasanaethau’r Cyngor a fydd yn bresennol yn Sioe Sir Benfro, ewch i’n cyfrifon cyfryngau cymdeithasol:
www.facebook.com/PembrokeshireCountyCouncil