
Cynghorwyr wedi’u hethol i Gyngor Tref Hwlffordd
Councillors elected to Haverfordwest Town Council
Mae datganiad canlyniadau’r is-etholiadau ar gyfer dwy o Wardiau Cyngor Tref Hwlffordd ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.
Cynhaliwyd yr etholiadau ar gyfer Wardiau’r Priordy a Portfield ar 19 Medi 2023.
Etholwyd y Cynghorydd Peter Lewis a’r Cynghorydd Tasha Jones i Ward y Priordy, a’r Cynghorydd Roy Thomas i Ward Portfield.
Cyhoeddodd y Swyddog Canlyniadau, Will Bramble, y canlyniadau yng Nghanolfan Picton, Hwlffordd, ar ôl i’r pleidleisio a’r cyfrif ddod i ben.
Mae’r datganiadau llawn ar gael ar y dudalen canlyniadau etholiadau ar wefan y Cyngor.