Henry Tudor Centre visit -ymweliad canolfan Henry Tudor

Cynghorwyr yn canmol cynnydd yn y Ganolfan Harri Tudur newydd

Councillors praise progress at the new Henry Tudor Centre

Rhannu:

 Mae Cynghorwyr Tref Penfro ac Arweinydd y Cyngor Sir, y Cynghorydd Jon Harvey, wedi ymweld â’r Ganolfan Harri Tudur newydd yng Nghei’r De, Penfro i weld y gwaith sy’n mynd rhagddo.

Cafodd y Cynghorydd Gareth Jones, y Cynghorydd Rose Blackburn a’r Cynghorydd Jonathan Grimes, ynghyd â’r Cynghorydd Harvey a Chlerc Tref Penfro, Suzie Thomas, daith dywys o amgylch yr adeilad sydd i’w agor yng ngwanwyn 2027.

Bydd y ganolfan newydd gyffrous yn adrodd hanes Harri Tudur, un o feibion Penfro, ei linach Gymreig a’i effaith ar ein stori ni fel cenedl, diwylliant Cymru, a’n treftadaeth Brydeinig ehangach.

Dywedodd y Cynghorydd Harvey, Arweinydd Cyngor Sir Penfro: “Mae’n galonogol gweld Canolfan Harri Tudur newydd yn datblygu ar ôl yr holl amser ac ymdrech a roddwyd yn hyn o beth gan gymuned a sefydliadau Penfro, gyda chefnogaeth Cyngor Sir Penfro.

“Bydd yr adeiladau adfeiliedig sydd wedi’u hadfer hefyd yn gartref i lyfrgell newydd a chaffi cymunedol, gyda chyfleuster gofal iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a chyflogaeth â chymorth yn yr adeilad cyfagos. Mae hwn yn ddatblygiad allweddol ar gyfer adfywio canol tref Penfro.”

Ymddiriedolaeth Harri Tudur fydd yn gweithredu’r ganolfan dreftadaeth newydd, a disgwylir iddi groesawu tua 30,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae’r Ymddiriedolaeth wedi gweithio gyda Chyngor Sir Penfro ers blynyddoedd lawer i wireddu hyn, a dechreuodd y gwaith ar y safle o ddifrif yn haf 2024.

Dywedodd y Cynghorydd Gareth Jones, “Mae’n lle trawiadol a fydd yn gwneud cyfiawnder wrth arddangos treftadaeth unigryw Penfro a’i chysylltiad â Harri Tudur. Bydd y ganolfan newydd yn atyniad gwych i ymwelwyr, gan ychwanegu at yr hyn sydd gan dreftadaeth rhagorol Penfro i’w gynnig. Bydd hefyd yn creu canolfan fywiog ar gyfer dysgu, gwirfoddoli ac ymgysylltu cymunedol yng nghanol Penfro.”

Bydd cyllid ychwanegol gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol yn cynnal swydd Cydlynydd Rhaglen Gymunedol am flwyddyn i gyflwyno calendr bywiog o ddigwyddiadau a gweithgareddau yn y ganolfan newydd, ynghyd â rhaglen wirfoddoli ac adnoddau addysgol ar gyfer ysgolion.