English icon English
Bird box installation - Gosod blwch adar

Prosiect blwch adar Neuadd y Sir i helpu i drechu dirywiad y wennol ddu

County Hall bird box project to help fight decline of the swift

Mae blychau adar wedi'u gosod yn Neuadd y Sir yn Hwlffordd i helpu i drechu’r dirywiad yn niferoedd y wennol ddu, ymwelydd hoffus â’r DU dros yr haf.

Prynodd Partneriaeth Natur Sir Benfro y blychau fel rhan o brosiect a ariennir yn llawn gan grant Lleoedd Lleol ar gyfer Natur Llywodraeth Cymru.

Mae cyfanswm o 46 o flychau gwennoliaid duon wedi'u gosod gan dîm coed y Cyngor.

Bird box - Bocsys adar

Mae poblogaeth gwennoliaid duon y DU wedi gostwng 60% yn ystod y 30 mlynedd diwethaf ac mae'r wennol ddu bellach ar restr goch Adar o Bryder Cadwraethol y DU.

Er nad ydym yn deall yn iawn yr union resymau dros y dirywiad, mae'n debygol bod gostyngiad mewn safleoedd bridio addas yn ffactor sy'n cyfrannu ato.

Yn y DU, mae gwenoliaid duon yn nythu yn bennaf mewn tyllau mewn adeiladau, ond nid ydynt ar gael mewn adeiladau modern yn aml oni bai eu bod wedi'u hymgorffori yn y dyluniad.

Yn ogystal â hyn, mae'r cyfleoedd i nythu ar hyn o bryd mewn adeiladau hŷn yn mynd yn fwy prin wrth iddynt gael eu colli pan fydd yr adeiladau'n cael eu hadnewyddu.

Nod prosiect blwch gwennoliaid duon Partneriaeth Natur Sir Benfro yw darparu cyfleoedd bridio i wennoliaid duon tra hefyd yn gwella gwerth bioamrywiaeth Neuadd y Sir a'r ardal gyfagos.

Swift in flight - Cyflym yn hedfan

Yn ogystal â gosod y blychau gwennoliaid duon, mae Partneriaeth Natur Sir Benfro yn creu cynefinoedd sy'n denu pryfed i Neuadd y Sir a’r amgylchedd ehangach trwy wneud newidiadau i gyfundrefnau torri gwair ac arferion rheoli cynefinoedd.

Nod y camau hyn yw rhoi hwb i'r boblogaeth o bryfed yn Sir Benfro, y mae'r wennol ddu yn dibynnu arni ar gyfer bwyd.

Y gobaith yw y bydd y bocsys gwennoliaid duon yn dechrau denu adar y flwyddyn nesaf ac y bydd gwenoliaid duon yn dechrau nythu yn Neuadd y Sir o 2026 ymlaen. Mae nifer o seinyddion galwadau gwennoliaid duon hefyd wedi'u gosod a fydd yn darlledu galwadau, y tu allan i oriau swyddfa, yn ystod y tymor bridio i annog gwenoliaid duon i archwilio'r blychau.

Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams, Aelod Cabinet dros Gynllunio a Gwasanaethau Rheoleiddio: "Mae hon yn fenter deilwng, sy'n cefnogi un o adar haf mwyaf poblogaidd Prydain, ond yn anffodus un sydd dan fygythiad.

“Hoffwn ddiolch i wasanaeth cynllunio'r cyngor a Phartneriaeth Natur Sir Benfro am sicrhau'r cyllid ar gyfer y prosiect hwn, sy'n rhan o ddyletswydd yr awdurdod o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) i wella bioamrywiaeth.

“Edrychaf ymlaen at weld y gwennoliaid duon yn dychwelyd ac rwy’n gobeithio eu gweld yn defnyddio'r blychau hyn yn y dyfodol.”