
Goleuo Neuadd y Sir i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost
County Hall lights up to mark Holocaust Memorial Day
Bydd Neuadd y Sir yn Hwlffordd yn cael ei goleuo'n borffor ddydd Llun 27 Ionawr i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost.
Mae Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yn nodi 80 mlynedd ers rhyddhau carcharorion rhyfel o Auschwitz-Birkenau, ac mae'n cofio'r chwe miliwn o Iddewon a lofruddiwyd yn ystod yr Holocost a'r rhai a laddwyd mewn hil-laddiadau wedi hynny.
Thema'r cofio eleni yw 'Ar gyfer Dyfodol Gwell' ac mae'n canolbwyntio ar yr hyn y gall pawb ei wneud i greu dyfodol gwell.
Mae hyn yn cynnwys codi llais yn erbyn yr Holocost a phobl sy’n gwadu hil-laddiad, herio rhagfarn ac annog eraill i ddysgu am yr Holocost a hil-laddiadau mwy diweddar.
Dywedodd Arweinydd Cyngor Sir Penfro, y Cynghorydd Jon Harvey: "Mae Diwrnod Cofio'r Holocost eleni yn arbennig o deimladwy wrth i ni gofio'r adegau y rhyddhawyd y carcharorion o Auschwitz-Birkenau gan ddatgelu erchyllterau'r Holocost i'r byd.
“Mae gan bob un ohonom gyfle i weithredu er mwyn creu dyfodol gwell. Dyfodol gwell lle nad yw pobl yn dioddef rhagfarn nac erledigaeth oherwydd eu ffydd, ethnigrwydd nac unrhyw nodwedd arall.”
Dywedodd y Cynghorydd Simon Hancock, Llywydd y Cyngor: "Ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost, rydym yn cofio dioddefwyr Iddewig yr Holocost a phawb arall a ddioddefodd erledigaeth y Natsïaid a'r hil-laddiadau sydd wedi dilyn.
“Wrth i ni anrhydeddu y cof amdanynt, rydym hefyd yn gwneud addewid i frwydro yn erbyn rhagfarn, gwahaniaethu a gwrth-semitiaeth mewn cymdeithas heddiw.”
Gweler https://hmd.org.uk/ am fwy o wybodaeth ar Ddiwrnod Cofio'r Holocost.