English icon English
pentyrrau o ddarnau arian gydag ysgewyll gwyrdd wrth ymyl siâp tŷ pren

Cyfle ledled y sir i gael cyllid cymunedol drwy grant Gwella Sir Benfro

County wide opportunity for community funding with Enhancing Pembrokeshire

Mae Datganiadau o Ddiddordeb bellach ar agor (7 Tachwedd) ar gyfer ceisiadau gan bob cymuned yn Sir Benfro am gyfran o'r arian a godwyd gan bremiymau Ail Gartrefi’r Dreth Gyngor.

Mae mwy na £4 miliwn o gyllid wedi'i ddosbarthu i ardaloedd lle mae effaith perchnogaeth ail gartrefi ar ei mwyaf ers i Gyngor Sir Penfro sefydlu'r Grant Gwella Sir Benfro.

Mae'r rownd ddiweddaraf yn agored i bob grŵp cymunedol yn Sir Benfro, i wneud cais am grantiau bach hyd at £15,000 neu grantiau mawr hyd at £100,000, ar gyfer costau cyfalaf a refeniw.

Mae pwyslais ar yr amcanion llesiant gan gynnwys cymhwyso dysgwyr â sgiliau a gwybodaeth gydol oes ar gyfer y dyfodol; atal a sicrhau bod pobl agored i niwed yn ddiogel; mentrau sy'n cyflawni datgarboneiddio, yn rheoli addasu i'r hinsawdd ac yn mynd i'r afael â'r argyfwng natur.

Ynghyd â phrosiectau sy'n cefnogi cymunedau a chreu mannau gweithredol, dyfeisgar, cysylltiedig, cynaliadwy a chreadigol i fyw ynddynt a gweithgarwch sy'n cefnogi'r Gymraeg o fewn cymunedau

Mae rhagor o wybodaeth am yr hyn y gellir ei ariannu a sut i wneud cais ar gael ar wefan Cyngor Sir Penfro.

Gallwch hefyd gysylltu â'r tîm drwy e-bost: gwella.sir.benfro@sir-benfro.gov.uk

Dywedodd y Cynghorydd Neil Prior, yr Aelod Cabinet dros Wella Corfforaethol a Chymunedau: "Mae grant Gwella Sir Benfro yn rhan bwysig o raglen adfywio'r Cyngor ac yn cynorthwyo ein hymrwymiad i weithio ochr yn ochr â'n cymunedau yn Sir Benfro ar y pethau sy'n bwysig iddyn nhw.

"Gyda bron i £5 miliwn yn cael ei ddosbarthu i brosiectau cymunedol ers sefydlu'r gronfa yn 2018, rydym wedi manteisio ar y cyfle i'w hadolygu, ac rydym yn ail-lansio cronfa grant fwy hygyrch a all gefnogi mwy o fentrau cymunedol rhagorol ledled Sir Benfro."