
Achos llys ar ôl i gaban pren a chwt bugail gael eu hadeiladu heb ganiatâd
Court action after log cabin and shepherd’s hut built without permission
Mae cyn-gwpl a adeiladodd gwt bugail a chaban pren heb ganiatâd cynllunio wedi cael gorchymyn gan lys i dalu mwy na £4,000 rhyngddynt.
Plediodd Daniel a Megan Davies yn euog i beidio â chydymffurfio â hysbysiad gorfodi ar ôl i'r datblygiad anghyfreithlon gael ei ddarganfod ar dir yn Seven Acres Hendy-gwyn ar Daf, ym mis Awst 2023.
Ymddangosodd Daniel Davies o Seven Acres, Hendy-gwyn ar Daf a Megan Davies o The Potting Shed, Hendy-gwyn ar Daf gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Iau 1 Mai.
Cyhoeddodd Cyngor Sir Penfro hysbysiad gorfodi yn ei gwneud yn ofynnol i symud y caban a'r cwt ar 21 Mehefin 2024 ond ni chymerwyd unrhyw gamau gan y diffynyddion mewn perthynas â gofynion yr hysbysiad gorfodi.
Dywedodd y bargyfreithiwr Christian Hawley, wrth amddiffyn, fod ei gleientiaid yn cydnabod y dylent fod wedi cydymffurfio â'r hysbysiad gorfodi a mynegodd eu hedifeirwch.
Dywedodd Mr Hawley wrth y llys fod y cwt bugail bellach wedi'i dynnu i lawr.
Rhoddodd y llys ddirwy o £1000 i Daniel Davies am beidio â chydymffurfio â'r hysbysiad gorfodi.
Rhaid iddo hefyd dalu gordal dioddefwr o £400 ynghyd â chostau llawn o £1658.50 am gyfanswm sy'n ddyledus i'r llys o £3058.50.
Cafodd Megan Davies ddirwy o £750 a rhaid iddi dalu gordal dioddefwr o £300.