English icon English
Creatives night - Noson Greadigol

Pobl greadigol yn creu cyswllt yn Abergwaun: Meistroli’r cyfryngau cymdeithasol a sbarduno cydweithio

Creatives connect in Fishguard: Mastering social media and sparking collaborations

Daeth cerddorion, ffotograffwyr, gwneuthurwyr ffilmiau a chrewyr cynnwys ynghyd ar gyfer noson ysbrydoledig o gydweithio a sgwrsio yn nigwyddiad diweddaraf Gorllewin Cymru Greadigol.

Canolbwyntiodd trafodaeth banel a digwyddiad rhwydweithio a fynychwyd gan lawer o bobl yn Ffwrn, Abergwaun fis diwethaf, ar ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol a delweddau digidol i farchnata'r sector cerddoriaeth.

Bu panel o arbenigwyr o'r diwydiant cerddoriaeth gan gynnwys Siân Adler o Trigger Happy Creative, Alun Llwyd Prif Swyddog Gweithredol PYST Ltd ac Owain Elidir Williams, sylfaenydd cylchgrawn cerddoriaeth Klust, yn trafod defnyddio platfformau cyfryngau cymdeithasol fel adnodd ar gyfer y diwydiannau creadigol.

Gwnaeth sesiwn gwib-rwydweithio alluogi'r rhai a oedd yn bresennol i gysylltu â phobl greadigol eraill o bob rhan o'r sectorau ac archwilio cydweithio posibl, cyfleoedd busnes a chefnogaeth.

Meddai Siân: "Mae'n gyffrous iawn gweld prosiectau fel Gorllewin Cymru Greadigol yn bodoli - gall fod yn anodd gwneud cysylltiadau newydd yn y diwydiant yn enwedig y tu allan i'r ddinas ond roedd cael cyfleoedd fel y panel/digwyddiad rhwydweithio a gynhaliwyd yn Ffwrn yn wych.

“Bob blwyddyn mae ein cwmni'n ffilmio yng Ngŵyl Lleisiau Eraill ac rydym bob amser yn chwilio am griw lleol felly roedd gallu cwrdd a chysylltu â phobl greadigol leol yn gyfle gwych i ni."

Ariannwyd digwyddiad Gorllewin Cymru Greadigol gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU a'i gefnogi gan dîm busnes Cyngor Sir Penfro.

Dywedodd Anwen Baldwin, Swyddog y Diwydiannau Creadigol: "Roedd yn wych cael cymaint o bobl leol dalentog ag ystod o sgiliau at ei gilydd mewn un ystafell. Yn aml, dydy pobl ddim yn ymwybodol o bobl greadigol eraill a allai fod yn byw ac yn gweithio i lawr y ffordd.

“Gobeithio y bydd hyn yn arwain at lawer o gydweithio yn y dyfodol. Rydym eisoes wedi cael adborth cadarnhaol am werth y digwyddiad hwn, ac rydym yn bwriadu trefnu mwy o ddigwyddiadau rhwydweithio o'r math hwn i ddod â phobl ynghyd o bob sector.”

Nod Gorllewin Cymru Greadigol yw hwyluso sgyrsiau a chysylltiadau. Gan ganolbwyntio'n bennaf ar y sectorau cerddoriaeth, sgrin, gemau cyfrifiadurol, cyhoeddi ac animeiddio, mae'r rhwydwaith yn cysylltu pobl sy'n gweithio yn y diwydiannau creadigol ar draws siroedd Ceredigion, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, mewn ymgais i rannu cyfleoedd, gwybodaeth ac annog cydweithio.

I wybod mwy am y gweithgareddau sydd ar gael neu i ymuno â Rhwydwaith Gorllewin Cymru Greadigol, ewch i: www.gorllewincreadigol.cymru

Funded by UK Govt logo-2