Creu Rhodfa Pabi deimladwy yn Aberdaugleddau
Poignant Poppy Walk created in Milford Haven
Unwaith eto, creodd pobl ifanc deyrnged addas i anrhydeddu Dydd y Cofio drwy greu Rhodfa Pabi ar hyd Hamilton Terrace.
Ddydd Llun 11 Tachwedd fe wnaeth cyn-filwyr sy'n gweithio i'r gwasanaeth ieuenctid ddewis pobl ifanc i'w helpu i ddefnyddio’r torchau a osodwyd wrth y senotaff i'w gosod ar hyd y rheiliau rhwng y Lleng Brydeinig Frenhinol yn Aberdaugleddau i lawr i'r Senotaff ei hun.
Mae hwn bellach yn ddigwyddiad blynyddol gyda'r gwasanaeth. Mewn blynyddoedd blaenorol mae pobl ifanc o Ysgol Aberdaugleddau ac aelodau Clwb Ieuenctid Aberdaugleddau wedi gwneud y gwaith hwn. Eleni pobl ifanc a staff o Gwaith yn yr Arfaeth oedd yn helpu’r gweithwyr ieuenctid.
Mewn blynyddoedd blaenorol mae'r adborth gan y cyhoedd wedi bod yn hynod gadarnhaol ac roedd hyn yn wir eto eleni wrth i aelodau'r cyhoedd aros a siarad â'r bobl ifanc i ofyn beth roedden nhw'n ei wneud a diolch iddynt am ychwanegu at y gymuned mewn ffordd barchus.
Mae Cyngor Tref Aberdaugleddau wedi cefnogi'r Rhodfa Pabi ers ei sefydlu ac unwaith eto roeddent yn ddiolchgar i'r gwasanaeth ieuenctid a'r bobl ifanc am arwain ar y gwaith hwn.
Dywedodd Jimmy Wilson, gweithiwr ieuenctid a chyn-aelod o Gatrawd Ffin Frenhinol y Brenin ei Hun: "Mae'r ffaith bod y bobl ifanc hyn wedi dod yma ar eu diwrnod bant i wirfoddoli eu hamser i greu rhodfa pabi yn dangos eu bod yn gwerthfawrogi gwasanaeth y lluoedd arfog ac yn deall arwyddocâd diwrnod y cofio a'r aberth a wnaed gan aelodau'r lluoedd arfog a chyn-aelodau'r lluoedd arfog."
Mae'r llun yn dangos Alfie, Kaden, Lily, Megan a Jenna gyda staff o Wasanaeth Ieuenctid Sir Benfro a Gwaith yn yr Arfaeth.