Gorfodi Gorchymyn Ymddygiad Troseddol ar gymydog swnllyd a sarhaus
Criminal Behaviour Order imposed on noisy and abusive neighbour
Mae dyn a barhaodd i guro ar ei nenfwd a gweiddi sarhad ar gymydog i fyny'r grisiau wedi cyfaddef iddo dorri Hysbysiad Gwarchod y Gymuned.
Plediodd Paul McNally o Laws Street, Doc Penfro, yn euog i'r drosedd yn dilyn erlyniad gan Gyngor Sir Penfro.
Ymddangosodd gerbron Llys Ynadon Hwlffordd ddydd Mercher 19 Tachwedd.
Mae McNally bellach wedi'i roi o dan Orchymyn Ymddygiad Troseddol.
Os bydd yn parhau i droseddu, mae torri Gorchymyn Ymddygiad Troseddol yn cynnwys risg o ddedfryd o garchar.
Dywedwyd wrth ynadon fod McNally wedi cael Rhybudd Gwarchod y Gymuned yn dilyn cwynion ei fod yn curo ar y nenfwd ac yn amharu ar y tenant sy'n byw uwchben.
Honnodd McNally ar gam ei fod yn curo'r nenfwd i ddial am sŵn o'r fflat i fyny'r grisiau.
Fodd bynnag, yn dilyn cwynion i'r Cyngor, cofnodwyd tystiolaeth gan ddefnyddio The NoiseApp ac offer monitro sain a ddangosodd McNally yn curo ac yn gweiddi pan oedd y tenant ond yn byw ei bywyd arferol, er enghraifft yn rhedeg tapiau neu’n fflysio'r toiled.
Roedd y gweiddi a tharo'r nenfwd yn achosi pryder a gofid sylweddol i'r cymydog.
Cyflwynwyd yr Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn cyfarwyddo McNally i beidio â chreu sŵn na sarhau tenantiaid eraill ond parhaodd yr ymddygiad a chasglwyd tystiolaeth bellach.
O ganlyniad, cyflwynodd y Cyngor Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, gan ei gyfarwyddo eto i beidio ag ymddwyn yn y modd hwn.
Yn anffodus, parhaodd yr ymddygiad gwael ac erlynwyd McNally gan y Cyngor am dorri'r Hysbysiad Gwarchod y Gymuned, sy'n cael ei gyflwyno o dan delerau Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014.
Rhoddodd ynadon ddirwy o £162 i McNally a'i orchymyn i dalu Gordal Dioddefwr o £65 a £1,000 mewn ffioedd i Gyngor Sir Penfro.
Gorfododd ynadon yr Hysbysiad Gwarchod y Gymuned ar McNally gyda'r nod o atal rhagor o sŵn a sarhad.
Os bydd yn torri’r Hysbysiad Gwarchod y Gymuned bydd yn cael ei gyfeirio yn ôl i'r Llys a all arwain at ddedfryd o garchar.
Dywedodd y Cynghorydd Jacob Williams: "Mae Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn hysbysiad cyfreithiol ffurfiol y gall Cynghorau ei gyhoeddi i atal y math hwn o ymddygiad niwsans, a all gael effaith ofnadwy ar ansawdd bywyd pobl.
"Yn anffodus, ni chydymffurfiwyd â'r Hysbysiad Gwarchod y Gymuned yn yr achos hwn, felly nid oedd gan yr awdurdod unrhyw ddewis ond mynd â'r mater i'r llys. Y canlyniad yw euogfarn, sy'n dod ar gost sylweddol i'r diffynnydd, na fyddai wedi digwydd pe byddai wedi dilyn yr Hysbysiad Gwarchod y Gymuned."