English icon English
LWP-2

Croesawu arolygiad ardderchog o ddysgu Cymraeg i oedolion

Excellent inspection of Welsh language adult learning welcomed

Mae arolygwyr Estyn wedi dweud bod Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn cyflenwi darpariaeth dda a rhagorol i ddysgwyr.

Bob blwyddyn, mae tua 800 o ddysgwyr yn defnyddio Dysgu Cymraeg Sir Benfro, sy’n darparu cyrsiau prif ffrwd o lefel Mynediad i Uwch.

Mae'n ddarparwr annibynnol o dan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, sy'n darparu cyllid craidd, ac sy’n rhan o’r Adran Addysg Gymunedol ac Ieuenctid yng Nghyngor Sir Penfro.

Mae wedi'i leoli yng Nghanolfan Dysgu Cymunedol Arberth, ac mae dosbarthiadau yn cael eu cynnal mewn amryw o leoliadau eraill ac ar-lein.

Canfu Estyn fod y rheolwyr yn gweithio gydag uwch swyddog yr Adran Addysg Gymunedol ac Ieuenctid i ddatblygu darpariaeth i ymateb i anghenion dysgu Cymraeg y sir.

Gwelwyd bod dysgwyr yn cymryd rhan yn frwdfrydig ac yn rhyngweithio'n dda mewn gwersi ac roedd llawer o gyfleoedd i gymryd rhan mewn gweithgareddau a digwyddiadau anffurfiol, sydd i gyd yn hybu’r defnydd o'r iaith.

Roedd y dysgwyr yn datblygu i siarad Cymraeg, a darllen ac ysgrifennu hefyd.

Canfuwyd bod safonau'n dda, yn ogystal â phrofiadau addysgu a dysgu, ac arweinyddiaeth a rheolaeth, tra bod lles ac agweddau at ddysgu a gofal, cefnogaeth ac arweiniad yn cael eu hystyried yn rhagorol.

Roedd cryfhau prosesau cynllunio strategol, miniogi prosesau ar gyfer gwerthuso addysgu a monitro cynnydd yn argymhellion a wnaed gan Estyn.

Croesawodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Addysg a'r Iaith Gymraeg, y Cynghorydd Guy Woodham, yr adroddiad.

"Rydym wrth ein bodd bod Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn gwneud mor dda wrth helpu pobl i gyflawni'r lefel uchaf o ddysgu Cymraeg y gallant a diolch i'r tiwtoriaid gweithgar am bopeth maen nhw'n ei wneud.

"Mae'r angerdd am y Gymraeg a ddangosir gan reolwyr a thiwtoriaid wedi arwain at amgylchedd dysgu croesawgar a llwyddiannus i'r bobl hynny ar bob lefel, gan ddysgu wyneb yn wyneb, ar-lein neu mewn gwaith yn Nghyngor Sir Penfro."