Cyffro i Arberth wrth i lyfrgell newydd agor yn yr Hen Ysgol
Excitement for Narberth as new Library opens at former Old School
Mae’r bennod ddiweddaraf yn stori Llyfrgell Arberth wedi dechrau gydag agoriad tawel yn ei hadeilad pwrpasol newydd.
Cafwyd agoriad anffurfiol ar safle'r Hen Ysgol a ailddatblygwyd yn ddiweddar ddydd Iau, 26 Medi, a bydd agoriad ffurfiol yn cael ei gynnal ddiwedd y flwyddyn.
Roedd y llyfrgell wedi’i lleoli’n flaenorol mewn hen eglwys Wesleaidd ar St James Street ond erbyn hyn bydd mae’n mwynhau lleoliad llawer gwell, gyda digon o le parcio ar gael ym maes parcio Gwaun y Dref sydd gerllaw.
Cafodd y gwaith o adeiladu’r llyfrgell ar ffurf cragen sylfaenol ei hymgorffori yn y gwaith adeiladu ar gyfer safle gyfan yr Hen Ysgol, dan arweiniad dau o gyn-ddisgyblion yr ysgol.
Yn sgil cael grant o bron i £150,000 gan Lywodraeth Cymru, ynghyd ag arian cyfatebol gan Gyngor Sir Penfro, bu modd i’r llyfrgell gael ei chwblhau a’i gosod i safon uchel, gan gynnwys y dechnoleg ddiweddaraf o’r radd flaenaf, a fydd yn ymestyn yr amseroedd agor yn sylweddol.
Mae’r bartneriaeth hirsefydlog rhwng Cyngor Tref Arberth, Cyfeillion Llyfrgell Arberth a Chyngor Sir Penfro, yn parhau yn y llyfrgell newydd.
Dywedodd y Cynghorydd Rhys Sinnett, Aelod Cabinet dros Wasanaethau Preswylwyr: “Mae’n wych gweld y llyfrgell newydd yn barod i agor ei drysau i wasanaethu pobl leol unwaith eto.
“Er bod y gwaith wedi cymryd ychydig yn hirach nag yr oeddem yn ei obeithio, bu’n brosiect cymhleth gyda sawl sefydliad yn gweithio mewn partneriaeth i sicrhau bod gennym lyfrgell gynaliadwy a llwyddiannus i bobl Arberth.
“Fel maen nhw’n ei ddweud, mae'n werth aros am bethau da.”
Dywedodd Maer Cyngor Tref Arberth, y Cynghorydd Chris Walters: Ar ran Cyngor Tref Arberth rydym o’r diwedd yn llawn cyffro i ddweud ein bod wedi cwblhau proses drylwyr iawn a hoffwn ddiolch i bob aelod o’r cyhoedd am eu hamynedd wrth i ni weithio’n ffordd drwy’r broses gyfreithiol, fanwl hon. Hoffwn ddiolch am gydweithrediad cyfreithwyr Cyngor Sir Penfro a'n cyfreithiwr ni yn Hains a Lewis.
“Mae hwn yn gyfle gwych i’r dref ac mae’n wych gweld cyfleuster cymunedol newydd yn cael ei agor gyda chymorth Cyngor Sir Penfro a Llywodraeth Cymru. Hoffwn hefyd ddiolch i’r datblygwyr am roi'r adeilad hwn i’r dref.
“Rwy’n gwybod y byddai’r diweddar Gynghorydd Sue Rees wedi bod wrth ei bodd yn gweld hyn ei hun, felly byddwn yn cofio amdani ar y diwrnod agoriadol pan fyddwn, o’r diwedd, yn torri’r rhuban ac yn croesawu hen aelodau yn ogystal â rhai newydd, gobeithio, i Lyfrgell Arberth.
“Gyda ffrindiau Llyfrgell Arberth yn rhedeg y llyfrgell, rwy’n gwybod bod aelodau’r cyhoedd mewn dwylo da ac unwaith eto rwy’n llongyfarch yr holl aelodau am gwblhau’r prosiect hwn o’r diwedd.”
Dywedodd Cadeirydd Cyfeillion Llyfrgell Arberth, a Chynghorydd Sir ward drefol Arberth, Marc Tierney: “Ers 2016, mae Cyfeillion Llyfrgell Arberth wedi cefnogi gwasanaeth llyfrgell poblogaidd ein tref. Nawr, ar ôl blynyddoedd o gynllunio gyda’n partneriaid a chyda chyllid Llywodraeth Cymru, rydym yn falch y bydd pawb sy’n defnyddio’r llyfrgell leol yn elwa ar y buddsoddiad mawr hwn yn ein tref.
“Mae gan Arberth lyfrgell y gallwn ni i gyd fod yn falch ohoni. Mae gwirfoddolwyr Cyfeillion Llyfrgell Arberth yn edrych ymlaen at groesawu wynebau cyfarwydd ac wynebau newydd i’n cartref newydd sbon yn Town Moor Mews.”
Nodiadau i olygyddion
Yn y llun uchaf mae'r Cyng Marc Tierney, y Cynghorydd Rhys Sinnett, y Cynghorydd Chris Walters a Catherine Rawlings, Is-gadeirydd Cyfeillion Llyfrgell Arberth, y tu allan i'r llyfrgell newydd.
Yn y llun isod, mae'r Cynghorydd Tierney, Sinnett a Walters yn edrych ar y llyfrgell newydd.