Cyfle i grefftwyr, artistiaid a chynhyrchwyr lleol werthu eu nwyddau ym marchnad Dinbych-y-pysgod
Mae Cyngor Sir Penfro yn ceisio datganiadau o ddiddordeb ar gyfer cynigion dros dro o fewn y farchnad dan do boblogaidd yn Dinbych-y-Pysgod.
Y gobaith yw y bydd y stondinau dros dro yn arddangos cynnyrch lleol, yn denu mwy o ymwelwyr ac yn gwneud cyfraniad cadarnhaol at fywiogrwydd y farchnad. Gall darpar ddeiliaid stondin wneud cais am un diwrnod yn unig neu am slotiau rheolaidd hyd at y Nadolig. Mae prisiau diwrnod yn dechrau o £25 yn unig.
Y gobaith yw y bydd hyn yn rhoi cyfle i fusnesau newydd a’r bobl hynny sydd am roi cynnig arni. Os bydd hyn yn llwyddiannus, y gobaith yw y bydd cyfleoedd parhaus ar gyfer mwy o stondinau dros dro fel nodwedd reolaidd.
Mae’r fenter wedi deillio o waith ar y cyd rhwng Cyngor Sir Penfro a Chyngor Tref Dinbych-y-pysgod. Maen nhw’n gweithio ar y cyd i weld sut y gallan nhw wella'r farchnad yn y tymor byr.
Dywedodd y Cynghorydd Sam Skyrme-Blackhall, y Cynghorydd Sir dros Dde Dinbych-y-pysgod: “Rwy’n falch ein bod yn cynnig y cyfle hwn i grefftwyr, artistiaid a chynhyrchwyr lleol werthu eu nwyddau ym marchnad Dinbych-y-pysgod. Dyma ddechrau cynllun hirdymor i wella ein marchnad. Rydyn ni’n gwybod mai cam cyntaf bach yw hwn ond rwy’n gobeithio ei fod yn dangos i bawb ein bod wedi ymrwymo i’r farchnad ac yn benderfynol o’i gwella i bawb.”
Mae Swyddogion y Cyngor a Chynghorwyr wedi ymweld â marchnadoedd eraill i gael syniadau ac ychwanegodd y Cynghorydd Skyrme-Blackhall: “Rydyn ni’n falch o’n marchnad. Mae gennym ni fusnesau lleol gwych yno a gobeithio bod hwn yn gyfle i fusnesau newydd ddechrau.”
Yn ogystal â’r stondinau dros dro, mae Cyngor Sir Penfro yn gwahodd corau sydd â diddordeb mewn perfformio i gysylltu â nhw i berfformio yn y farchnad yn y cyfnod cyn y Nadolig. Bydd Cyngor y Dref yn gweithio gyda stondinwyr i greu awyrgylch Nadoligaidd yn y farchnad.
Dylai unrhyw un sydd â diddordeb mewn rhagor o wybodaeth gysylltu â CSP a gofyn am ffurflen gais drwy anfon e-bost at propertyhelpdesk@pembrokeshire.gov.uk