English icon English
llyfr nodiadau

Cyfle i wneud cais am brosiectau yn Sir Benfro trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig

Opportunity to bid for Pembrokeshire projects via the UK Shared Prosperity Fund

Mae Cyngor Sir Penfro wedi lansio ei broses ymgeisio i wahodd sefydliadau â diddordeb i wneud cais am gyllid gan Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig (UKSPF).

Mae’r UKSPF ar gael yn ystod blynyddoedd ariannol 2022/23, 2023/24 a 2024/25 yn unig – ac ar gyfer prosiectau ar draws y wlad.

Mae’n rhaid i brosiectau gynnal gweithgarwch yn unol â Phrosbectws Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig a chyd-fynd ag un o’r blaenoriaethau buddsoddi hyn:

  • Cymunedau a Lle
  • Cefnogi Busnes Lleol
  • Pobl a Sgiliau

Mae’r UKSPF yn un o gronfeydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n disodli ffrydiau cyllido Ewropeaidd nad ydynt ar gael mwyach ar ôl Brexit. Mae hefyd yn rhan o agenda ffyniant bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig.

Wrth sôn am y £7.65m sydd ar gael, dywedodd Aelod Cabinet Cyngor Sir Penfro dros Gyllid, y Cynghorydd Alec Cormack: “Rydym yn gwybod bod sefydliadau ledled Sir Benfro yn awyddus iawn i gael y cyllid hwn. 

“Disgwyliwn y bydd y wybodaeth sydd eisoes wedi cael ei chyhoeddi gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig wedi caniatáu i brosiectau barhau i gael eu datblygu tra buom yn paratoi ar gyfer gwahodd ceisiadau.

“Edrychwn ymlaen at dderbyn ceisiadau o ansawdd da a fydd yn gallu darparu ystod eang o brosiectau er budd pobl, cymunedau a busnesau Sir Benfro.”

Rhagwelir y bydd yr arian yn cefnogi amrywiaeth o brosiectau, ac er y disgwyliwn i gynigion geisio tua £300,000 i £500,000 ar gyfartaledd, bydd cynigion llai yn cael eu derbyn os ydynt y tu allan i gwmpas y cynlluniau grant.

Bydd Cyngor Sir Penfro yn darparu rhai prosiectau ‘Angori’ sy’n canolbwyntio ar feysydd y mae awdurdodau lleol yn y sefyllfa orau i’w cyflawni, ond mae rhai o’r prosiectau Angori’n cynnwys cynlluniau grant y gall trydydd partïon wneud cais am gyllid ar eu cyfer. Mae’n rhaid i ymgeiswyr wirio’n ofalus p’un a ddylent wneud cais am Gyllid Ffyniant Cyffredin o dan y Gwahoddiad i Gynnig hwn, neu gynllun grant ar wahân.

Cyflwyno Cais am Gyllid:

Mae’n rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno gan ddefnyddio fersiwn Sir Benfro o Ffurflen Gais Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig, sydd ar gael yma. Ni fydd cynigion a gyflwynir mewn unrhyw fformat arall yn cael eu derbyn.

Mae’n rhaid i geisiadau gael eu cyflwyno i Gyngor Sir Penfro gan ddefnyddio’r cyfeiriad e-bost  spf@pembrokeshire.gov.uk.

Rhaid cyflwyno ceisiadau bellach erbyn 11:59pm ddydd Gwener, Mawrth 31 2023. Ni fydd ceisiadau sy’n cyrraedd ar ôl y terfyn amser hwn yn cael eu derbyn.

Os nad ydych yn siŵr beth yw’r ffordd orau o sicrhau’r cyllid UKSPF y mae arnoch ei angen i gyflwyno’ch prosiect, rydym wedi cynhyrchu siart lif a fydd yn eich helpu i lywio’r llwybrau amrywiol trwy’r rhaglen. Mae’r siart lif hon a’r holl wybodaeth arall, gan gynnwys sut y bydd ceisiadau’n cael eu hasesu, ar gael ar wefan y Cyngoryma. Hefyd, mae dolenni i dudalennau gwe Llywodraeth y Deyrnas Unedig sy’n cynnwys gwybodaeth ychwanegol am Gronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.

Bydd gweminar ar gyfer darpar ymgeiswyr yn cael ei chynnal rhwng 9am ac 11am ddydd Iau, 2 Mawrth. Cysylltwch ag spf@pembrokeshire.gov.uk os hoffech fynychu. Mae gweminar arall ar gyfer rhanbarth de-orllewin Cymru yn cael ei threfnu hefyd, a bydd y manylion yn cael eu cyhoeddi.