Cyfnod o garchar am dorri Gorchymyn Llys a osodwyd ar ôl nifer o euogfarnau lles anifeiliaid
Jail term for breaching Court Order imposed after multiple animal welfare convictions
Mae dyn o Ddoc Penfro wedi cael ei garcharu am dorri Gorchymyn Llys a osodwyd ar ôl iddo gael ei ddyfarnu’n euog o nifer o gyhuddiadau lles anifeiliaid mewn achos a ddygwyd ymlaen gan Gyngor Sir Penfro.
Ymddangosodd Sean Burns o Rose Hill Lodge, Bramble Hall, Ferry Lane, Doc Penfro, gerbron y Llys ddydd Iau 2 Mawrth ac fe’i dedfrydwyd i wyth mis o garchar.
Dyfarnwyd Burns yn euog o dorri Gorchymyn cynharach, a wnaed o dan Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006, a oedd yn ei anghymhwyso rhag ymwneud â gofal neu les anifeiliaid na dylanwadu ar hynny mewn unrhyw ffordd.
Gosodwyd y Gorchymyn, a oedd yn gyfystyr â gwaharddiad am gyfnod amhenodol, ym mis Chwefror 2020.
Dyfarnwyd Burns yn euog o gynnal gweithrediad bridio cŵn anghyfreithlon a 13 o gyhuddiadau lles anifeiliaid. Fe’i dedfrydwyd i 20 wythnos o garchar bryd hynny hefyd.
Ym mis Medi 2020, cafodd Burns ddedfryd ohiriedig o garchar gan Lys y Goron Abertawe, gyda dau ddyn arall, am ei ran mewn cynhyrchu “smokies” yn anghyfreithlon ar y fferm.
Ym mis Chwefror 2022, gweithredodd swyddogion iechyd anifeiliaid a warden cŵn o Gyngor Sir Penfro, gyda chymorth swyddogion Heddlu Dyfed Powys, warant arall ar y safle lle’r oedd Sean Burns yn preswylio.
Canfu’r swyddogion 12 ci, dau aderyn cariad a chrwban ar y safle, yn groes i’r anghymhwysiad a oedd ar waith. Arweiniodd hyn at gyflwyno cyhuddiadau ychwanegol gan y Cyngor a’r euogfarn fwyaf diweddar.
Cynrychiolwyd y Cyngor gan Christian Jowett, ar ran yr erlyniad, wrth i’r ddedfryd gael ei rhoi gerbron Ei Anrhydedd y Barnwr P. Thomas CB yn Llys y Goron Abertawe.
Amlinellodd Ei Anrhydedd y Barnwr Thomas droseddu blaenorol Burns fel nodwedd a oedd yn gwaethygu’r toriad, gydag euogfarnau lles anifeiliaid yn dyddio’n ôl i 2018.
Rhoddwyd dedfryd gydredol i Burns am yr holl droseddau, tri achos o dorri ei orchymyn anghymhwyso, a rhoddwyd cyfanswm o wyth mis iddo (pedwar mis yn y carchar a phedwar mis ar drwydded).
Yn ogystal, gwnaeth Llys y Goron ei orchymyn anghymhwyso ei hun, sef bod Burns yn cael ei anghymhwyso am oes o dan adran 34(2) Deddf Lles Anifeiliaid 2006.
Roedd hyn yn gwahardd Burns rhag perchen ar anifeiliaid neu eu cadw, rhag cymryd rhan mewn cadw anifeiliaid, a rhag bod yn rhan o drefniant lle mae ganddo’r hawl i reoli neu ddylanwadu ar y ffordd y cedwir anifeiliaid.
Ni chaniateir i Burns wneud cais am gael rhyddhau’r anghymhwysiad am gyfnod o 10 mlynedd.
Aethpwyd â’r anifeiliaid a symudwyd ymaith o Bramble Hall i ganolfan achub lle y cawsant y gofal a’r driniaeth filfeddygol yr oedd arnynt eu hangen.
Hoffai’r Cyngor ddiolch i ganolfan achub anifeiliaid Greenacres am eu cymorth ac am barhau i ofalu am yr anifeiliaid. Ar ôl cyfnod adsefydlu, bydd yr anifeiliaid hyn yn cael eu lleoli mewn cartrefi addas gan y ganolfan achub.
Dywedodd y Cynghorydd Michelle Bateman, Aelod y Cabinet dros Weithrediadau Tai a Gwasanaethau Rheoleiddiol: “Hoffwn ganmol gwaith y swyddogion a fu’n ymwneud â dod â’r mater gerbron y Llysoedd unwaith eto a chymorth yr heddlu a sefydliadau eraill, na fyddai’r camau gweithredu hyn wedi bod yn bosibl hebddo.
“Fodd bynnag, mae’n destun rhyfeddod a siom i mi fod yr unigolyn hwn wedi dangos cymaint o esgeulustod o les anifeiliaid a diffyg parch i awdurdod y Llys, dro ar ôl tro.
“Rydym yn falch bod hyn wedi cael ei gydnabod yn llawn gan y Llys wrth roi’r ddedfryd ddiweddaraf hon o garchar.”
Yn y llun cŵn a ddarganfuwyd gan Swyddogion y Cyngor ar safle Bramble Hall ym mis Chwefror 2022. Roedd Sean Burns wedi’i wahardd rhag cadw anifeiliaid ar y pryd.