Dyn gyda pen a laptop

Cyhoeddi opsiynau grant newydd i fusnesau Sir Benfro

New grant options for Pembrokeshire businesses announced

Rhannu:

Mae Cyngor Sir Penfro yn falch o gyhoeddi lansio ystod newydd o gymorth grant sydd wedi'i gynllunio i helpu busnesau lleol i dyfu, buddsoddi, lleihau allyriadau carbon a chyfrannu at adfywio canol trefi Sir Benfro.

Wedi'u cyflwyno mewn partneriaeth â Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, mae'r pecynnau cyllido yn darparu ystod o gyfleoedd i fusnesau, perchnogion eiddo a phrosiectau canol trefi ledled y Sir.

Dywedodd y Cynghorydd Paul Miller, y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Addysg ac Adfywio: "Mae lansio'r cynlluniau hyn yn gyfle sylweddol i fusnesau a chymunedau ledled Sir Benfro gael gafael ar gymorth ariannol ar gyfer buddsoddi, twf ac adfywio.

“P'un a ydych chi'n dechrau busnes newydd, yn bwriadu ehangu, yn edrych i wella eiddo masnachol, yn buddsoddi yng nghanol eich tref neu'n cymryd camau i leihau eich allyriadau carbon, efallai y bydd cyllid ar gael i gefnogi eich cynlluniau.

“Rydym wedi ymrwymo i gefnogi busnesau Sir Benfro a chreu cymunedau cadarn, bywiog sy’n ffynnu ledled y sir.”

Cymorth grant sydd ar gael:

Cynllun Paent Strydlun Sir Benfro – hyd at £4,999
Mae cymorth ar gael i helpu i wella ymddangosiad eiddo a chyfrannu at greu canol trefi deniadol a bywiog.
Canllawiau a mynegi diddordeb: Gweler Cynllun Paent Strydlun Sir Benfro - Cyngor Sir Penfro 

Cronfa Datblygu Eiddo Masnachol – hyd at £100,000
Cyllid i gefnogi datblygu a gwella eiddo masnachol, gan helpu i ddod â safleoedd yn ôl i ddefnydd cynhyrchiol a chefnogi buddsoddiad yng nghanol ein trefi.
Canllawiau a mynegi diddordeb: E-bostiwch town.grants@pembrokeshire.gov.uk.

 

Grantiau a Benthyciadau Trawsnewid Trefi – hyd at £300,000
Cefnogaeth ar gyfer prosiectau sy'n cyfrannu at adfywio, trawsnewid a hyfywedd hirdymor canol trefi Sir Benfro.
Canllawiau a mynegi diddordeb: E-bostiwch town.grants@pembrokeshire.gov.uk.

 

Grant Twf Sir Benfro – hyd at £50,000
Cymorth i fusnesau sefydledig sy'n dymuno tyfu, buddsoddi a chreu cyfleoedd newydd yn Sir Benfro. Canllawiau a mynegi diddordeb: Gweler Grant Twf Sir Benfro: Canllawiau a sut i wneud cais - Cyngor Sir Benfro.

Grant Busnesau Newydd Sir Benfro – hyd at £15,000

Cymorth i annog entrepreneuriaeth a dechrau busnesau newydd drwy fuddsoddiad i fusnesau newydd ar raddfa fach yn Sir Benfro.

Canllawiau a mynegi diddordeb: Gweler Grant Twf Sir Benfro: Canllawiau a sut i wneud cais - Cyngor Sir Benfro.

 

Grant Lleihau Carbon Sir Benfro – hyd at £35,000
Cyllid i helpu busnesau i leihau eu hôl troed carbon, gwella effeithlonrwydd ynni a chymryd camau ymarferol tuag at ddyfodol carbon is.
Canllawiau a mynegi diddordeb: Gweler Grant Lleihau Carbon Sir Benfro - Canllawiau a sut i wneud cais - Cyngor Sir Penfro.