Cyhoeddi ymgeiswyr isetholiad Canol Doc Penfro
Pembroke Dock Central by-election candidates published
Cyhoeddwyd rhestr yr ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad i Gyngor Sir Penfro yn ward Canol Doc Penfro.
Mae enwebiadau wedi cau ac mae'r Datganiad o Bersonau a Enwebwyd wedi'i gyhoeddi.
Y rhai sy'n sefyll i gael eu hethol yw:
Claire Francis-Boswell – Plaid Geidwadol Cymru
Terence David Jones – Restore Britain
Stephen O’Connor – Llafur Cymru
Ray Roberts – Reform UK Wales
Cynhelir yr etholiad ddydd Mawrth, 8 Rhagfyr.
Rhaid i geisiadau i gofrestru i bleidleisio (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn hanner nos ar 20 Tachwedd.
Rhaid cyflwyno ceisiadau am bleidleisiau post (yn agor mewn tab newydd) cyn 5pm 23 Tachwedd.
Rhaid i geisiadau i bleidleisio drwy ddirprwy (yn agor mewn tab newydd) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol erbyn 5pm 30 Tachwedd fan bellaf.
Mae'r datganiad llawn o'r personau a enwebwyd, gan gynnwys enwau llawn y pleidiau, ar gael i'w weld ar wefan y Cyngor.
Bydd cardiau pleidleisio yn cael eu hanfon at etholwyr cyn yr etholiad. Caiff pobl ifanc 16 ac 17 oed sydd wedi cofrestru a gwladolion tramor bleidleisio yn yr etholiad hwn.
Ni fydd angen manylion adnabod ffotograffig i bleidleisio yn yr etholiad hwn.