English icon English
seiclo yn y coed

Cyhoeddir Cynllun Llesiant Sir Benfro

Well-being plan for Pembrokeshire published

Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus (PSB) Sir Benfro wedi cyhoeddi ei ail Gynllun Llesiant sy’n ceisio gwella lles ar gyfer pobl a chymunedau yn y Sir.

Partneriaeth strategol statudol yw’r PSB a sefydlwyd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru).  Mae’r bwrdd yn cynnwys cynrychiolwyr o ystod eang o sefydliadau sy’n darparu gwasanaethau ar draws y Sir. 

Mae’r Ddeddf yn mynnu bod aelodau’r PSB yn cydweithio i wella llesiant trwy feddwl mwy am y tymor hwy, gweithio’n well gyda phobl, cymunedau, a gyda’i gilydd; a cheisio atal problemau cyn iddynt ddigwydd.

Mae’r Cynllun yn amlinellu sut y bydd partneriaid yn y sector cyhoeddus a phreifat yn cydweithio i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol yn Sir Benfro trwy weithio ar y cyd ar draws tri maes prosiect;

  • Lleihau tlodi ac anghydraddoldebau
  • Cryfhau cymunedau
  • Mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd a’r argyfwng natur

Dywedodd Cadeirydd y PSB, y Cynghorydd Neil Prior: “Yn y Cynllun hwn, rydym wedi dewis canolbwyntio ar feysydd lle y gall gwaith partneriaeth gael yr effaith fwyaf, lle y gall ein dylanwad cyfunol ychwanegu gwerth y tu hwnt i’r hyn rydym yn ei wneud fel sefydliadau unigol.  Mae hwn yn ddarn pwysig o waith i’r holl bartneriaid sy’n ymwneud â gwaith y PSB ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn cynnwys pobl ifanc a chymunedau yn ein gwaith gymaint